# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

rhifyn 1 gwanwyn 2008
#

Adnoddau Newydd

Mynediad i Gymru


Dyma deitl cyfres o lyfrau hamdden a fydd yn cyflwyno agweddau diddorol ar fywyd yng Nghymru mewn iaith syml. Ers blynyddoedd mae oedolion sy’n dysgu Cymraeg, a’u tiwtoriaid, wedi bod yn galw am ddeunydd darllen lle mae’r iaith ar lefel elfennol ond lle mae’r cynnwys a’r arddull ar lefel deallusrwydd oedolion. Bydd y gyfres hon yn llanw bwlch mawr yn y ddarpariaeth.

Y pedwar llyfr cyntaf yn y gyfres yw:
Dilyn Dwy Afon – Afon Tywi ac Afon Teifi

(patrymau iaith y de; awdur Elin Meek)

Mynyddoedd Mawr – Eryri a’i Phobl

(patrymau iaith y gogledd; awdur Elin Meek)

Cyffro’r Cymoedd – Hen a Newydd

(patrymau iaith y de; awdur Carole Bradley)

O’r Tir – Byw yn y Wlad

(patrymau iaith y gogledd; awdur Elin Meek)


Nod y gyfres yw agor cil y drws – rhoi ‘mynediad’, felly, – i wybodaeth amrywiol a diddorol am Gymru, a hynny mewn dull deniadol, bywiog a chyfoes – ar lefel ieithyddol diwedd Cwrs Mynediad. Bydd y cynnwys yn ymdrin â daearyddiaeth a hanes yr ardaloedd dan sylw, a’r bobl a’u diwylliant, eu gwaith a’u gweithgareddau hamdden, gan gynnwys cyfweliadau. Cyflwynir cyfoeth o eirfa ddefnyddiol a bydd y gyfres yn ddelfrydol fel deunydd adolygu’r Cwrs Mynediad a pharatoi ar gyfer y Cwrs Sylfaen.

Bydd y deunydd yn addas ar gyfer yr unigolyn sy’n gweithio ar ei ben ei hun neu ar gyfer gwaith yn y dosbarth gyda’r tiwtor. Bob hyn a hyn cynigir Siawns am Sgwrs – cwestiynau i ysgogi trafod mewn pâr neu mewn grŵp, a bydd y llu o luniau lliw, hefyd, yn destun sgwrs.

Yn y gyfres hon sicrhawyd cydbwysedd rhwng patrymau iaith y de a’r gogledd – gan ddilyn y patrymau sydd yn y ddau fersiwn o’r Cwrs Mynediad. Y gobaith yw y bydd y llyfrau’n denu pawb i’w darllen, yn gogs a hwntws – er mwyn dysgu mwy am bob rhan o’r wlad – ac, yn y broses, helpu pontio’r ‘gagendor’ de/gogledd.

Mae’r awduron wedi hen brofi eu hygrededd yn y maes. Elin Meek yw awdur Cwrs Mynediad CBAC, ac mae Carole Bradley yn Diwtor Hŷn (Hyfforddiant) yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg.

Cyhoeddir y gyfres ddiwedd mis Mawrth, 2008 gan Wasg Gomer, a’r pris yw £4.99 y llyfr.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth a thaflenni i’w dosbarthu yn eich dosbarth, cysylltwch ag Adran Farchnata Gwasg Gomer ar 01559 363 090. Gellir prynu copïau yn y modd hwn hefyd.