Penblwydd Hapus i’r Clonc!
gan Dewi Rhys-Jones
Cynhaliwyd y Clonc Mawr cyntaf ym mis Mawrth 2009 felly mae Clonc Mawr 11 a gynhelir ar 20 Chwefror yn dathlu diwedd y flwyddyn gyntaf. Mae'r Clonc Mawr yn rhoi cyfle i oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn Sir Benfro ddefnyddio'u Cymraeg gyda'r Cymry tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae hyn yn hanfodol i`r rhai sydd eisiau bod yn rhugl. Ar y Clonc Mawr rydyn ni'n cerdded rhan fach o Lwybr Arfordir Sir Benfro bron bob mis (collwyd un Clonc Mawr yn 2009 oherwydd y tywydd). Gan ddilyn yr amserlen honno, bydd criw y Clonc Mawr yn parhau am ryw wyth mlynedd wrth i ni gerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro o Lanrhath yn y de i Draeth Poppit yn y gogledd.
Clonc 11
Bydd yr unfed Clonc Mawr ar ddeg yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 20 Chwefror, pan fydd y criw yn cerdded o Bont Werdd Cymru i Orllewin Freshwater. Bydd cyfle i gael picnic ar y ffordd felly dewch â brechdanau.
10:30
Cwrdd wrth Bont Werdd Cymru. Mae maes parcio rhyw ddau ganllath o Bont Werdd Cymru.
11:00
Dechrau. Picnic ar y ffordd, dewch â brechdanau.
3:00
Cyrraedd maes parcio Gorllewin Freshwater a lifftiau yn ôl i'r maes parcio ar bwys Pont Werdd Cymru. Wedyn i Benfro am ddished a chlonc.
Y Clonc Mawr yn gorffen.
Cyswllt:
01437 776785
cloncfeistr@ycloncmawr.co.uk
Mwy o fanylion ar galendr mynediadsirbenfro.co.uk
neu gwglwch Y Clonc Mawr 11.
![]()
Clonc 10
Cynhaliwyd Clonc Mawr 10 ddydd Sadwrn 30 Ionawr pan gerddodd grŵp ohonon ni o Aberllydan i Bont Werdd Cymru. Dyma lun o rai o`r grŵp wrth Bont Werdd Cymru.
![]()
Lluniwyd cerdd i ddysgwyr y Cloncie gan y bardd Idris Reynolds:
Dysgwr
Mewn gardd a fu yn harddach – a'i lliwiau
Yn llawer tanbeitiach,
Y mae rhosynnau mwyach
Yn bywhau y border bach.
Idris Reynolds


