# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008
cyfunol.jpg
esbonio.jpg
Y bwriad oedd peilota’r cwrs wrth ei lansio yn Ionawr 2008 felly gwnaethpwyd pwynt o gyfyngu’r marchnata i’r wefan yn unig. Gallwch ddychmygu’r panic ar wyneb y Tiwtor Hŷn, Anna Tiplady, felly wrth iddi sylweddoli nad oedd digon o le i bawb yn yr ystafell...

‘Ar y noswaith gyntaf ces i sioc gweld 30 o bobl yn ceisio gwasgu i mewn i’r dosbarth’ meddai Anna, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg.

‘Oedd hyn yn profi beth oedden ni wedi’i amau, bod llawer iawn o bobl yng Nghymru eisiau dysgu Cymraeg ond yn methu gwneud hynny yn y ffyrdd mwy confensiynol sy’n cael eu cynnig iddynt’.

Cyfuniad 50 / 50 o ddysgu yn y dosbarth ac ar-lein yw’r cwrs cyfunol sy’n cyflwyno’r iaith ar-lein (clywedol) gyda’r gweithgareddau adolygu hollbwysig yn dilyn yn y dosbarth. Yn ychwanegol at hyn, cynigir cefnogaeth e-fonitro personol gan diwtor drwy gydol y cwrs.
2tiwtor_side.jpg
    Yn ôl yr holiadur gwerthuso cychwynnol, mae’r cwrs yn cwrdd â gofynion y dysgwyr, yn hawdd i’w ddeall ac yn cynnig cydbwysedd da rhwng gweithgareddau ar-lein ac wyneb i wyneb. Fel pobl sydd wedi dysgu ieithoedd o’r blaen, mae nifer helaeth hefyd o’r farn fod y cyfrwng hwn yn well na chwrs traddodiadol. Y ffigwr pwysicaf serch hynny yw bod 100% eisiau mynd yn eu blaenau i wneud cwrs cyfunol ar y lefel nesaf.



iidigwydd3.jpg