# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008

menter_1.jpg

Menter Caerdydd
Ty Avocet, 88 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd CF14 2FG  Ffôn 029 20565658

Bwriad Mentrau Iaith Cymru yw hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned. Mudiadau lleol yw’r Mentrau Iaith rhanbarthol, sy’n rhoi cymorth i gymunedau i gynyddu ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae’r Mentrau yn rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ac yn cynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith, ac mae Menter Caerdydd yn sicr o flaen y gad yn hynny o beth.

Yn bwysicach na dim efallai yw’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig yn y ddinas, trwy law Menter Caerdydd, i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Mae’r ddarpariaeth yn eang, fel y gwelwch isod:

coffi.jpg  menter_2.jpg

   Digwyddiadau ar gyfer Dysgwyr yng Nghaerdydd
   
Dydd Llun
Salingers Bar Gwesty Village Coryton
11.00-12.00
Darllen a deall mewn 2 neu 3 grŵp a chanu ar y diwedd
Arweinydd Gwilym Dafydd 029 20 657108
eirian.dafydd@ntlworld .com
   
Dydd Mawrth
Y Mochyn Du - Bore Coffi Menter Caerdydd
11.00-12.00
Cyfle i ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch gymdeithasol a hwyliog.
Menter Caerdydd 029 20 565658
   
Bar One Canolfan y Mileniwm - Coffi a Chlonc
12.00-1.00
Dewch i gymdeithasu gyda dysgwyr eraill dros baned o goffi.
Menter Caerdydd

Dydd Mercher
Clwb Ifor Bach - Bore Coffi
12.30-1.00
Am fanylion pellach ffoniwch Clwb Ifor Bach 02920 231299
   
menter_3.jpg

Roedd Menter Caerdydd yn sicr wedi manteisio ar gyfleustra’r Eisteddfod Genedlaethol eleni ac aeth criw Cynlluniau Chwarae y Fenter ar sawl ymweliad â Maes yr Eisteddfod. Dyma rai o’r criw ger pabell Menter Caerdydd.

   Penwythnos Teulu, Llangrannog  
   28 - 30 Mawrth 2008
Rhoddir llawer o bwyslais ar drefnu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i’r teulu ac un achlysur poblogaidd iawn yw’r Penwythnos Teulu yng Ngwerysll yr Urdd, Llangrannog a drefnir gan Fenter Caerdydd yn flynyddol. Aeth 45 teulu i Langrannog eleni, ac er gwaetha’r gwynt a’r glaw roedd pawb wrth eu bodd! Yn ogystal â’r holl weithgareddau yn ystod y dydd, roedd adloniant gyda’r hwyr yn cynnwys twmpath dawns, disgo a pherfformiad gan Heather Jones. Fe fydd Menter Caerdydd yn trefnu taith eto’r flwyddyn nesaf, felly os hoffech gofrestru nawr i ddangos bod diddordeb gennych mewn ymuno â’r criw, anfonwch e-bost at angharad@mentercaerdydd.org
menter_4.jpg
Un o’r datblygiadau pwysicaf a wnaed gan Fenter Caerdydd yw cynhyrchu ffônlyfr ac mae ffônlyfr 08/09 ar gael nawr!
    Mae’r ‘Ffônlyfr’ yn cynnwys rhifau ffôn pobl sy’n cynnig gwasanaethau drwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae’r categorïau yn amrywio o Gyfieithwyr, Plymwyr a Gwarchodwyr Plant i wasanaethau Adloniant ac Iechyd. Eleni mae dros 135 o rifau ffôn wedi eu cynnwys.
Felly, os ydy’ch dysgwyr eisiau trefnu gwersi canu preifat neu archebu system wresogi newydd ar gyfer y tŷ, gallant wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg!

dots.jpg

Does byth digon o gyfleoedd i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, na digon o gyfleoedd chwaith i ddysgwyr ddysgu’n anffurfiol.

Dyma ragor o ddigwyddiadau sydd ar y gweill gan Fenter Caerdydd:

   e-chlysur
   Menter Caerdydd

Digwyddiadur Wythnosol

Dydd Sul, 10yb
CRICC Clwb Rygbi Ieuenctid Cymry Caerdydd i blant rhwng 7 - 14 mlwydd oed
Maes y Deiamwnt CHOB

Dydd Llun, 6.00yh
Clwb Rhedeg Menter Caerdydd. Croeso i bawb. Llwybrau a phellter yn ôl gallu rhedwyr.
Tu allan i Ystafelloedd Canolfan Chwaraeon Cymru, Pontcanna

Dydd Llun, 7.00yh
Menter Caerdydd.
Gwersi Sbaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg
Ysgol Gyfun Glantaf

Dydd Llun
Menter Caerdydd.
Clwb pêl-rwyd yn ymarfer unwaith eto’r tymor hwn. Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd! Cysylltwch ag Angharad am fwy o fanylion. angharad@mentercaerdydd.org
Ysgol Howells, Llandaf

Dydd Mawrth, 11yb
Bore Coffi y Dysgwyr
11am - 12 pm Tafarn y Mochyn Du, Pontcanna

Dydd Mawrth, 5.30yp
Clwb Nofio ar gyfer plant
Bl 2,3,4,5 a 6.
Hyfforddwyr - Darren Jenkins a Gethin Thomas.
5.30pm - 8.30 pm
Pwll Nofio Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Dydd Mawrth, 5.30yp
Menter Caerdydd.
Clwb Clocsio
Festri Capel Salem, Treganna

Dydd Mercher, 5.30yp
Menter Caerdydd.
Clwb Cymdeithasol i Blant ag Anghenion Arbennig.

Nos Fercher 5.30yh - 7.00yh
Ysgol Plasmawr

2tiwtor_side.jpg  
Dydd Mercher, 5.30yp
Clwb Anghenion Arbennig Menter Caerdydd.
Croeso i blant 8 i 16 oed. Chwaraeon, Cerddoriaeth, Teithiau, Celf a Chrefft a llawer mwy. Am fanylion cysylltwch â Sian Lewis ar 029 20 56 56 58.
Ysgol Gyfun Plasmawr

Dydd Mercher, 12yp
Coffi a Chlonc i ddysgwyr.
12yp – 1yp Pob Dydd Mercher
Cyfle gwych i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg dros goffi.
Bar 1 (Llawr 1)
Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Cysylltwch â 029 20565658 am fwy o wybodaeth.

iidigwydd3.jpg