Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

llun tiwtor

Mae brwdfrydedd Lois yn heintus wrth iddi sôn am ei gwaith fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac mae’n anodd iawn credu mai dysgu Cymraeg wnaeth hithau hefyd ar un adeg.

Cafodd ei geni a’i magu yn Lloegr, yn yr ardal rhwng Leeds ac Ilkley, ac ar ôl gadael yr ysgol bu’n gweithio am gyfnod fel nyrs mewn deintyddfa. Cyfarfu â’i gŵr, Peter, yn Llundain a symudodd y ddau i Gymru ar ôl priodi. Penderfynwyd ymgartrefu y tu allan i’r Trallwng ond bryd hynny (yn yr wythdegau) fe’u darbwyllwyd gan bobl yr ardal nad oedd neb mewn gwirionedd yn siarad Cymraeg ac nad oedd unrhyw bwrpas i ddysgu’r Gymraeg! A dyna a fu. Dechreuodd hi a’i gŵr ddau fusnes llewyrchus, sef busnes cynllunio gerddi a chwmni gwnïo.

Y cam nesaf oedd symud i ardal Llanfair Caereinion, a dyna oedd newid byd i’r pâr ifanc. Mae Lois yn cofio clywed y Gymraeg am y tro cyntaf wrth wrando ar gymdogion Cymraeg yn siarad Cymraeg ar y stryd ac fe’i syfrdanwyd gan yr iaith a chan bobl gynnes, groesawgar Cwm Banw. Felly, dyma fwrw ati ym 1996 i ddysgu’r iaith yng Nghanolfan Gregynog dan ofal y tiwtor Gwenith Price. Mae’n amlwg bod y profiad hwnnw a’r lleoliad bendigedig wedi creu argraff fawr ar Lois ac roedd hi’n medru siarad Cymraeg ar ôl naw mis yn unig.   

Ymlaen wedyn at ddosbarth Cyril Jones ac at wersi bendigedig a difyr iawn unwaith yn rhagor. Yn ôl Lois, camp mwyaf Cyril Jones oedd cyflwyno’r dosbarth i drysorau llenyddiaeth Gymraeg. Ar ôl llwyddo i ennill cymhwyster Lefel A yn y dosbarth hwn, aeth Lois ymlaen i wneud gradd allanol yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn 2007. 

Mae Lois wedi bod yn diwtor ers 1999 ac erbyn hyn wedi dysgu pob lefel o Fynediad i Feistroli. Yn y dosbarth, mae’n rhoi’r pwyslais ar fwynhad a rhoi’r dysgwr yng nghanol y dysgu, ac mae’n cyfaddef bod arddull y ddau diwtor fu’n ei dysgu hi wedi apelio ati. Mae’n gweld hefyd fod y maes wedi proffesiynoli ar hyd y blynyddoedd ac mae hynny’n ddatblygiad allweddol. Tiwtor achlysurol yw hi, ac eleni mae ganddi ddau ddosbarth dwys, sy’n cyfateb i wyth awr o ddysgu yr wythnos.

Wrth reswm, rhai o ddiddordebau eraill Lois yw garddio a gwnïo. Mae hi a’i gŵr hefyd yn mwynhau teithio, a chan fod Peter yn dod yn wreiddol o Dde Affrica, maen nhw wedi teithio llawer yn y rhan honno o’r byd.  Bu’n rhaid i’w gŵr adael y wlad nôl yn 1976 oherwydd daliadau crefyddol yn wyneb gorfodaeth filwrol. Ceir adlais o brofiad Waldo Williams yn y stori honno, a diddorol nodi mai’r bardd hwnnw yw un o hoff feirdd y tiwtor!  

Yn ôl Lois, brwydr wahanol yw brwydr yr iaith Gymraeg a rhaid parhau â’r ymdrech. Ond mae’r dyfodol dipyn yn fwy sicr o gael tiwtoriaid fel hi.

 

llinell