Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

cystadleuaeth

Yr Amgueddfa Wlân oedd yn cynnig y wobr ar gyfer cystadleuaeth y rhifyn diwethaf, sef carthen Gymreig, ac mae’n diolch yn fawr iddyn nhw am y wobr arbennig hon.

Am gyfle i ennill y garthen, rhaid oedd ateb y cwestiwn hwn:
Ble mae Amgueddfa Wlân Cymru?

Yr ateb wrth gwrs yw Drefach Felindre a’r enillydd yw Siwan Hywel o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru. Llongyfarchiadau mawr iddi.

llinell

cystadleuaeth newydd

llun rhiannonErs dros 30 mlynedd bu Rhiannon Evans yn cynllunio a gwneud gemwaith unigryw a phrydferth yng nghalon Cymru wledig. A’i chanolfan yn Nhregaron, wrth droed Mynyddoedd y Cambrian, mae’r busnes yn falch o’i hunaniaeth Gymreig ac yn rhan bwysig o’r gymuned leol. O’i ddechreuad yn y 1970au, tyfodd y busnes yn gwmni teuluol sy’n cyflenwi gemwaith Cymreig a Cheltaidd yn fyd eang. Dros y blynyddoedd, mae gemwaith cain Rhiannon – wedi eu gwneud â llaw mewn Arian, Aur ac Aur Cymru – wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ansawdd eithriadol eu cynlluniau a’u crefftwaith.

Ysbrydolwyd y cynlluniau diweddaraf a’r hen ffefrynnau fel ei gilydd gan y wefr o fyw a gweithio mor agos â phosib at iaith a thraddodiad hynafol y Celtiaid. Yn hytrach nag efelychu darganfyddiadau hanesyddol go iawn, mae’n well gan Rhiannon gynllunio gwaith newydd sy’n defnyddio hen gonensiynau gweledol.

Mae Rhiannon yn parhau i wneud llawer o’r gemwaith eu hun, gyda chymorth crefftwyr cynorthwyol a hyfforddwyd o fewn y cwmni, ac archwilir pob darn yn ofalus i sicrhau’r safonau uchaf.

Caiff y gemwaith i gyd eu gwneud yn y Ganolfan yn Nhregaron gan grefftwyr Cymraeg a gellir gwylio’r gwaith yn mynd ymlaen yn y gweithdai gwylio pwrpasol. Ceir yma wasanaeth Cymraeg a chyfeillgar, a gellir galw mewn am sgwrs a phaned yn y caffi sy’n rhan o’r adeilad. 

logo rhiannonllun gwobrMae Siop Rhiannon yn cynnig gwobr hael iawn ar gyfer y gystadleuaeth newydd, sef un o’u tlysau mwyaf poblogaidd.

Dyma’ch cyfle chi i ennill tlws arian pitrwm-patrwm

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw ateb y cwestiwn hwn:

Beth yw enw perchennog Siop Rhiannon?

Medrwch anfon eich ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu, a’r dyddiad cau yw 31 Mawrth, 2011.

                                                               Pob lwc! 

llinell