Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

proffil tiwtor

Daw Stuart Imm o Went ac er iddo gael ei eni a’i fagu yno, ni chlywodd air o Gymraeg tan ryw 10 mlynedd yn ôl. Cyfrifydd proffesiynol yw e, wedi gweithio ers yn 16 oed ac ar hyd y blynyddoedd wedi mynychu nifer fawr o ddosbarthiadau gyda’r nos i ennill ei gymwysterau. 

Ar un adeg bu’n teithio llawer gyda’i waith gan ymweld yn gyson ag Asia, yr UDA, Tsieina, Taiwan a Rwsia. Am rai blynyddoedd, mae’n amcangyfrif iddo dreulio 4 mis bob blwyddyn yn teithio dramor. Erbyn hyn mae’n well ganddo weithio yn ei filltir sgwâr gan dreulio mwy o amser gyda’r teulu, sef ei wraig Ceri a’u pedwar plentyn.  

Daeth yr awydd i ddysgu iaith arall pan oedd mewn cynhadledd gyda’r gwaith ym Mharis. Bryd hynny roedd yn gweithio i gwmni o Ffrainc ac roedd 40 o bobl yn y gynhadledd, gydag ugain ohonynt yn dod o Brydain. Er mawr syndod iddo, cynhaliwyd y gynhadledd drwy gyfrwng y Saesneg a theimlodd gywilydd mawr mai dyna oedd yr unig iaith a ddefnyddiwyd yn ystod y gynhadledd.

Ar ôl cyrraedd gartre penderfynodd chwilio am ddosbarthiadau Cymraeg neu Ffrangeg, ac mae’n cyfaddef iddo ymuno â dosbarth Cymraeg mewn camgymeriad ar ôl iddo gyrraedd y cyfnod cofrestru yn hwyr a meddwl mai dosbarth Ffrangeg oedd e! Ers y cychwyn cyntaf, dechreuodd hefyd wrando ar Radio Cymru am hanner awr yn y car bob bore a nos, gan deimlo rhyw hyder a balchder mawr pan oedd yn deall beth a ddywedwyd!    

Ar ôl mynychu dosbarthiadau am flwyddyn, daeth trobwynt pan aeth i Ysgol Penwythnos Llambed ym Mehefin 2002.  Symudodd wedyn i ddosbarth Wlpan gan ddechrau ar gyfnod o gyfuno sawl math o ddosbarthiadau gan gyrraedd Wlpan 2, Cwrs Uwch ac yna’r Cwrs Meistroli. Ers 2004 mae Stuart hefyd wedi bod yn stiwardio ym Maes D adeg yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae’n parhau i wneud hynny bob blwyddyn. Yn ei farn ef, dyma gyfle arbennig i gwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill ac i ymarfer ei sgiliau.

Efallai mai uchafbwynt ei brofiadau fel dysgwr oedd ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn 2006. Mae’n cofio’r sioc o glywed ei fod wedi ennill, yn ogystal â chofio cyffro’r noson fawr ei hun yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, a bwrlwm y misoedd yn dilyn y cyhoeddiad. Dywed mai un o’r pethau rhyfeddaf a ddigwyddodd iddo ar ôl ennill y gystadleuaeth oedd cael galwad gan gwmni radio i drafod Cystadleuaeth y Cwpan Ryder am ei fod yn dod o Went ac yn medru siarad Cymraeg – er nad oes ganddo fymryn o ddiddordeb yn y gamp ei hun!

Dechreuodd diwtora yn 2005 a hynny yn wreiddiol er mwy cadw gafael ar ei Gymraeg ef ei hun. Yn ôl Stuart, mewn ardal ddi-Gymraeg fel Gwent rhaid manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r iaith. Mae’n amlwg ei fod wrth ei fodd yn tiwtora ac ar hyn o bryd mae’n dysgu 4 noson yr wythnos yn ogystal ag ysgolion undydd ac ysgolion haf. Yn eu tro, mae Stuart wedi dysgu dosbarthiadau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd ac eleni mae ganddo ddosbarth Uwch 3 hefyd.

Wrth sôn am y Gymraeg mae ei frwdfrydedd yn heintus ac, er mai gŵr ei filltir sgwâr yw Stuart, mae’n amlwg ei fod yn barod i fynd y filltir ychwanegol ar gyfer ei ddysgwyr.  Ei gyngor pennaf i diwtoriaid eraill yw i fod yn amyneddgar gan gofio bod rhai pethau’n gallu ymddangos yn anodd iawn i ddysgwyr. Mae’n aml yn pregethu wrth ei ddysgwyr am ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth ac i beidio poeni am gamgymeriadau. 

Pregeth Gymraeg yw hi, wrth gwrs, ac un a glywir yn atseinio ar y Cwrs Penwythnos yn Llambed hefyd, gan mai ef yw un o’r prif diwtoriaid yno erbyn hyn.

 

llinell