Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

croeso

 

 

 

 

 

 

Rhifyn olaf Y Tiwtor!
llinell lliw

Dyma ddechrau cyfnod cyffrous arall yn y maes Cymraeg i Oedolion wrth i ni gyhoeddi rhifyn olaf Y Tiwtor. Ar ôl ymateb i alwadau am gylchgrawn ar-lein i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion, mae’r Tiwtor wedi bod yn rhan sefydlog o’r arlwy CiO ers nifer o flynyddoedd bellach gan gyflwyno newyddion, gwybodaeth ac adnoddau addysgu i filoedd o bobl o bob cwr o Gymru a’r byd erbyn hyn. Er y newidiadau mawr sydd ar y gweill, rhaid pwysleisio y bydd pob un o rifynnau’r Tiwtor ar gael o hyd ar y we.

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Y Tiwtor, ac yn sicr mae’r gwaith arloesol hwn wedi gosod seiliau cadarn ar gyfer sefydlu Y Bont, sef y Moodle cenedlaethol newydd fydd yn disodli’r Tiwtor. Bydd Y Bont yn cynnig mwy o gyfleoedd i diwtoriaid a dysgwyr rywdweithio a chyfathrebu ar blatfform e-ddysgu rhyngweithiol. Un o’r datblygiadau mwyaf fydd cynnwys adran i’r Dysgwyr yn ogystal ag i’r Tiwtoriaid a’r bwriad yw lansio’r Bont erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni. Ceir mwy o’r hanes yn yr erthygl Y Bont – Moodle cenedlaethol gan Mal Pate.

llun croesoYn y rhifyn hwn hefyd mae’r pwyslais ar y cynadleddau niferus sydd wedi eu cynnal yn ddiweddar yn ymwneud â dysgu iaith i oedolion. Cawn hanes Emyr Davies yn mynychu Cyfarfod ALTE, a chawn gipolwg ar Gynhadledd CiO 2011 a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn swyddfeydd CBAC yng Nghaerdydd. Cafwyd sesiynau defnyddiol ar nifer o agweddau ar y maes CiO a cheir gwybodaeth bellach am ddau o’r cyflwyniadau yn yr erthyglau Cyngor gan Estyn a Gloywi Iaith. Yn ogystal â hynny, mae Mal Pate yn adrodd ei hanes wrth iddo Hacio’r Iaith, sef cynhadledd fodern yn ymwneud â thechnoleg, y we ac iaith. Cynhelir Cynhadledd IATEFL 2012 ddiwedd Mawrth yn Glasgow eleni a bwriedir cynnwys gwybodaeth am rai o’r sesiynau hynny a fynychir gan gynrychiolwyr o’r maes CiO ar wefan Y Bont.

Hefyd, cawn ail ran erthygl Ioan Talfryn ar y dull Dad-Awgrymeg, ac yn yr adran Proffil mae’n bleser cael sôn am un o’n tiwtoriaid mwyaf adnabyddus, sef Felicity Roberts.


cystadleuaeth
Ewch i’r adran Cystadleuaeth os hoffech ennill dau docyn i weld y sioe Hairspray yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

 

deunydd dysgu
Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer pob lefel. Y tro hwn, ymysg pethau eraill, mae gennym dasgau’n ymwneud â’r Dyfodol a hefyd adnoddau gwerthfawr gan Elin Meek yn ymwneud â gloywi iaith. Mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu adnoddau ac mae croeso i unrhyw un gysylltu os oes gennych chithau hefyd adnoddau neu syniadau i’w rhannu ar wefan Y Bont.

hwyl am y tro

llinell lliw