# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
proffil8.jpg

O lygad y ffynnon...

Ces i fy magu mewn tref o’r enw Chillicothe yn Ohio. Doedd neb yn siarad Cymraeg, ond Lloyd oedd fy nghyfenw cyn priodi. Ro’n i’n gwybod bod gen i enw Cymraeg ond ddim yn gwybod pam oedd yna dwy L yn fy enw. Rwan, ar ôl dysgu Cymraeg dw i’n gwybod pam!

Es i i Brifysgol Ohio i astudio ar gyfer fy ngradd addysg. Wedyn, es i i Brifysgol Rio Grande yn Ohio i astudio ar gyfer fy MA mewn addysg. Yn y Rio Grande wnes i gyfarfod fy ngŵr. Roedd o ar ysgoloriaeth yno i hybu diwylliant Cymru yn ardal Gymreig Ohio. Roedd o hefyd yn gwneud yr un MA â fi! Erbyn hyn, dw i’n byw yn Rhiwlas ger Bangor efo fy ngŵr, ei rieni, a’i frawd bach. Mae byw efo teulu sy’n siarad Cymraeg wedi bod yn help aruthrol i mi ddysgu’r iaith.

Dechreuais i ddysgu Cymraeg gan fod y gŵr yn siarad Cymraeg, ac roeddwn i’n symud i fyw i Gymru. Dysgu Cymraeg oedd y peth naturiol i’w wneud, felly. Ro’n i hefyd eisiau priodi yn y Gymraeg, heb yn wybod i’r gŵr. Cafodd o dipyn o sioc ar y diwrnod!

O ran cyrsiau Cymraeg, es i i’r Ysgol Haf ym Mangor i ddechrau, ac wedyn gwnes i’r Super Wlpan-Super Meistroli. Faswn i ddim yn dweud ei bod hi’n anodd iawn dysgu Cymraeg, dim ond bod y broses yn cymryd llawer o amser ac ymarfer. Y peth sydd wedi fy helpu i ddysgu Cymraeg yw tiwtoriaid da, ond mae byw efo teulu sydd yn siarad Cymraeg yn help ychwanegol! Mae’n help hefyd i sefyll arholiadau CBAC a chyflawni credydau RhCA. Erbyn hyn hefyd mae gen i TGAU a Safon Uwch ail iaith.

Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd yn llwyr a dw i’n byw fy mywyd hollol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i’n defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’m bywyd, o fynd at y meddyg i weithio mewn ysgol Gymraeg!

Mae nifer o fanteision i ddysgu Cymraeg ac yn sicr mae o wedi fy helpu i ymgartrefu yng Nghymru. Ar ôl dysgu Cymraeg, dw i wir yn teimlo fel rhan o’r teulu a’r gymuned dw i’n byw ynddi. Pan oeddwn i’n tyfu fyny, doeddwn i byth yn meddwl y baswn i’n dysgu siarad iaith arall yn rhugl. Yn bendant mae siarad Cymraeg yn fy helpu gyda fy swydd. Faswn i ddim yn gallu gwneud be’ dw i’n ‘neud heb siarad Cymraeg. Dw i wedi cael cymaint o gyfleoedd i wneud pethau difyr oherwydd fy mod i’n siarad Cymraeg.

Un o uchafbwyntiau’r broses o ddysgu, i mi, oedd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ac roedd o’n brofiad hollol wallgof! Roedd Ysgol Llanfairpwll wedi fy enwebu, a dw i’n hynod o ddiolchgar iddynt am hynny. Diolch byth am y rhyngrwyd hefyd, gan fod y teulu gartref yn America wedi gallu cadw i fyny efo’r holl beth. Ar ôl ennill, mae gen i flwyddyn brysur iawn o’m blaen a dw i’n cael mynd i siarad am fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg efo llawer o bobl.

Ar hyn o bryd, dw i’n gweithio yn Ysgol Llanfairpwll fel cymhorthydd dosbarth (dw i ddim yn gallu dysgu fel athrawes eto yn y wlad yma) ac mae gweithio yn yr ysgol wedi helpu fy sgiliau iaith i yn fawr iawn. Dw i’n dysgu llawer yn y dosbarth efo’r plant. Dw i hefyd yn dysgu Cymraeg i oedolion a dw i wrth fy modd! Mae’r dosbarth bob tro yn llawn pobl ddiddorol a dan ni’n cael llawer o hwyl. Ces i lawer o negeseuon gan y dosbarth yn fy llongyfarch adeg cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, chwarae teg! Bydda i’n dysgu dechreuwyr ar y Cwrs Wlpan eleni, a bydda i’n dysgu ochr yn ochr efo fy nhiwtor cyntaf i. Wrth fod yn diwtor, dw i’n teimlo fy mod i wir yn gwireddu un o’m gobeithion i, sef defnyddio’r Gymraeg trwy’r dydd, pob dydd!

Fel tiwtor sydd wedi bod trwy’r broses o ddysgu’r Gymraeg yn oedolyn, fy nghyngor pennaf i ddysgwyr yw chwiliwch am bob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth a pheidiwch ag ofni gwneud camgymeriadau. Byddwch yn fentrus!

Yn ogystal â dysgu iaith newydd, dw i hefyd yn hoff iawn o deithio. Dw i wrth fy modd yn gweld llefydd newydd a gwahanol ffyrdd o fyw. Mae byw yn Ewrop wedi bod yn grêt i fi gael teithio i lawer o lefydd newydd a chyffrous. Dw i hefyd yn mwynhau bod ar lan y môr. Ces i fy magu 10 awr i ffwrdd o lan y môr ond erbyn hyn mae cymaint o draethau hardd ar stepen y drws.

Dyna un o’r pethau gorau am fyw yng Nghymru, a’r iaith wrth gwrs!


    rule8col.gif