Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

‘Think without Limits: You can Speak Welsh!’

gan Lynda Pritchard Newcombe
Llyfr i ddysgwyr, Cymry Cymraeg a Thiwtoriaid

llinell

llun lindaAm y tro cyntaf erioed dyma gyfle i ddarllen sylwadau sylweddol gan ddysgwyr am eu profiadau yn y gymuned ac yn y gweithle mewn llyfr anacademaidd.  Mae miloedd o bobl bob blwyddyn yn dechrau dysgu Cymraeg ond mae tiwtoriaid yn ymwybodol iawn mai dim ond ychydig sy’n symud ymlaen i siarad yr iaith yn rhugl.  Wrth gwrs, mae anghenion pawb yn wahanol ac i rai dysgwyr mae dysgu ychydig o ymadroddion er mwyn medru ymdopi mewn sefyllfaoedd penodol yn ddigon. Ond mae’r rhan fwyaf sydd wedi methu â chyrraedd rhuglder yn teimlo’n siomedig gan eu bod nhw wedi dechrau’r daith gyda chymhelliant cryf i ddysgu’r Gymraeg.  Weithiau mae amgylchiadau teuluol neu bwysau gwaith yn gorfodi’r dysgwyr i roi’r gorau iddi, am gyfnod o leiaf. Ond mae eraill yn rhoi’r ffidil yn y to cyn ‘croesi’r bont’ oherwydd problemau megis diffyg hyder wrth ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth.

llun think without limitsMae ‘Think without Limits’ yn canolbwyntio ar y problemau hynny. Mae’r awdur, sydd erbyn hyn yn rhugl yn iaith ei chyndadau, yn disgrifio colli iaith y teulu a’i phrofiadau hi wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth.

Mae’n olrhain datblygiad ‘Cymraeg i Oedolion’ yng Nghymru a thu hwnt ac yn anelu at ateb y cwestiwn pam mae cymaint o bobl yn dechrau dysgu, a cheir cyngor gan diwtoriaid amlwg yn y maes yn Ne, Gogledd a Gorllewin Cymru. Mae hi hefyd yn sôn am ddysgwyr sydd wedi llwyddo i ddysgu’r iaith ac wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad sylweddol at frwydr yr iaith.

Mae dysgwyr o bob lefel yn disgrifio eu teimladau pan fydd Cymry Cymraeg yn defnyddio tafodiaith, bratiaith a ‘Wenglish’ ac yn siarad yn ‘rhy gyflym.’ Maen nhw hefyd yn nodi mai’r tueddiad i droi i’r Saesneg ydy un o’r problemau mwyaf. Wrth reswm, dydy’r problemau y mae’r dysgwyr yn eu disgrifio ddim yn unigryw i Gymru ac mae’r awdur yn rhoi enghreifftiau o sefyllfaoedd tebyg mewn gwledydd eraill, yn enwedig ardaloedd lle siaredir iaith leiafrifol ond lle mae’r boblogaeth i gyd yn gallu siarad iaith fwyafrifol hefyd e.e. Saesneg, Sbaeneg neu Almaeneg. Mae hi hefyd yn cynnwys hanes ei thaith hi a’i ffrind i’r Almaen gyda’r ddwy yn ceisio defnyddio’r Almaeneg ar eu gwyliau, a cheir cyngor gan arbenigwyr mewn ardaloedd fel Catalonia lle mae ymgyrch gref i hybu’r iaith wedi bod yn eithaf llwyddiannus.

llun tanniUn o brif bwrpasau’r llyfr ydy helpu dysgwyr i gynnal eu cymhelliant cychwynnol i siarad Cymraeg. Mae’r awdur yn defnyddio enwogion fel Tanni Grey-Thompson, sydd wedi ysgrifennu’r rhagair, yn esiamplau o gymhelliant cryf ac yn dadlau bod dyfalbarhad yn arwain at lwyddiant yn y pen draw. Yn ôl Tanni, ‘But at the highest level in any walk of life, natural talent is not enough … You need the ability to push yourself as hard as you can, and need to be able to pick yourself up from disasters.’

Mae Tanni yn awyddus i ddod yn rhugl yn y Gymraeg, iaith gyntaf ei mam hi, er ei bod hi’n byw yn Lloegr ac yn brysur iawn gyda’i gwaith yn y cyfryngau.

Rydym yn clywed lleisiau’r Cymry Cymraeg hefyd yn y llyfr hwn. Maent yn cydnabod bod rhwyg yn gallu datblygu rhwng siaradwyr mamiaith a dysgwyr, ac mae rhai yn ceisio egluro sut mae hyn yn digwydd. Ceir dadl y dylai’r Cymry Cymraeg wneud ymdrech fawr i helpu dysgwyr wrth fynnu siarad Cymraeg â nhw a disgwyl iddynt ymateb. Ond wrth gwrs mae rhai yn sylweddoli bod cyfrifoldeb hefyd ar ddysgwyr i barhau yn y Gymraeg pan fydd y Cymry Cymraeg, am ba bynnag reswm, yn troi i’r Saesneg. Does dim ateb syml i’r sefyllfa gymhleth hon sy’n codi gyda dysgwyr ail iaith ym mhob ran o’r byd. Ond mae’n bwysig i beidio â rhoi’r bai ar y Cymry Cymraeg nac ar y dysgwyr.

Mae’r Athro Bobi Jones yn nodi bod ymyrraeth ar ran y Cymry Cymraeg yn hanfodol os ydym am weld mwy o ddysgwyr yn dod yn rhugl yn yr iaith. Os ydy’r Gymraeg yn mynd i oroesi, rhaid i bawb sylweddoli bod pob siaradwr mamiaith, beth bynnag yw eu hoed, gallu neu gefndir, yn gorfod ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw. Felly, mae cymorth i ddysgwyr yr un mor allweddol yn y frwydr iaith â’r protestiadau iaith yn y chwedegau. Mae Bobi Jones yn rhagweld y gallai tynged yr iaith newid yn gyfangwbl pe bai protestwyr yn fodlon neilltuo awr yr wythnos i sgwrsio gyda dysgwyr!

Mae ‘Think without Limits’ yn gorffen gyda deuddeg o awgrymiadau i ddysgwyr, a deuddeg o awgrymiadau i’r Cymry Cymraeg ynghylch sut i’w cynorthwyo nhw. Ar y diwedd ceir rhestr o bolisïau arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer y sectorau cyhoeddus, addysgol, gwirfoddol a masnachol.

Bydd y llyfr yn ddefnyddiol i ddysgwyr, Cymry Cymraeg a thiwtoriaid, ac i bawb sydd â diddordeb mewn rhoi dyfodol i’r iaith Gymraeg a deall sut mae’r dysgwyr yn gysylltiedig â hynny. Yn y frwydr i adfer yr iaith caiff sylw ei roi i ysgolion Cymraeg, i’r protestiadau iaith ac i’r cyfryngau, ond does dim sylw wedi ei roi hyd yn hyn i rôl y dysgwyr.  Mae’r llyfr yn disgrifio cyfraniad gwerthfawr dysgwyr i ddyfodol yr  iaith ac yn dadlau y byddai mwy o ddysgwyr yn cyrraedd rhuglder pe bai siaradwyr mamiaith yn fwy ymwybodol o’r rhwystrau sy’n wynebu dysgwyr.

Lynda Pritchard Newcombe

Mae’r llyfr a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch ar gael o gwales.com, siopau llyfrau Cymraeg, Borders, Smiths a Waterstones.

llinell