Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Gweithdy yr Athro Alison Wray 

Cynhadledd Cymraeg i Oedolion

llinell

llun gweithdy Alison WrayWedi iddi draddodi araith agoriadol y Gynhadledd Cymraeg i Oedolion fis Tachwedd eleni (araith arbennig oedd yn ein herio o safbwynt sut a pham mae dysgwr yn dysgu), cynhaliodd yr Athro Wray gyfres o weithdai diddorol oedd yn mynd i’r afael â’n hagweddau tuag at y deunydd a ddefnyddir ar hyn o bryd wrth ddysgu Cymraeg i Oedolion. Roedd yn weithdy ymarferol iawn, gyda phob un o’r rhai oedd yn bresennol yn cael eu hannog i gymryd rhan. Y brif dasg oedd dychymygu eich bod yn rhan o dîm oedd yn adolygu maes llafur a deunydd Cymraeg i Oedolion, gyda’r bwriad o greu rhai newydd.

I gychwyn, gofynwyd nifer o gwestiynau fel sbardun i’r drafodaeth:-

Rhannwyd y gynulleidfa i grwpiau o bedwar neu bump ac, i gychwyn, gofynnwyd i ni i drafod a chytuno ar dair prif agwedd NA DDYLID eu defnyddio wrth lunio deunydd. Roedd yn ddiddorol cychwyn gyda thrafodaeth am y negyddol, gan ein bod o bosib yn teimlo’n fwy cyfforddus yn trafod beth sy’n anghywir. Dyma rai o’r enghreifftiau a roddwyd i ni gan yr Athro Wray:-

Gofynnwyd i bob grŵp osod eu syniadau ar bapur post-it cyn eu gludo i fyrddau gwyn. Wrth ddarllen y deunydd, roedd modd i bob person flaenoriaethu a grwpio’r nodweddion na ddylid eu cynnwys mewn cwrs newydd. Roedd y drafodaeth a glywyd wrth i bobl gylchynu’r byrddau a darllen y nodiadau yn hynod o ddiddorol, gydag ambell i ddadl yn cychwyn!

llun alison wray a'i nodiadau post-itWedi cael ychydig o amser i ddarllen y cynnwys oedd ar y byrddau,   gofynnwyd i bob grŵp wedyn i nodi pa elfennau y DYLID eu cynnwys fel rhan o gwrs. Gofynnwyd i ni nodi beth ddylid ei wneud, ac ym mha ffordd y dylid ei wneud yn effeithiol. Unwaith eto, gofynnwyd i ni i gytuno ar dri argymhelliad, a gosod y rhain ar bapur post-it (pinc y tro hwn!), gan nodi hefyd unrhyw brofiad oedd gennym o safbwynt creu ein deunydd ein hunain. Wedi hynny, roedd modd i ni gytuno neu anghytuno â’r hyn oedd wedi cael ei ddweud trwy gyfrwng papur post-it unwaith eto. Cafwyd sawl syniad gwreiddiol fel rhan o’r gweithdy ac, a dweud y gwir, roedd angen mwy na’r awr a gafwyd er mwyn gwneud teilyngdod â’r pwnc. Efallai y cawn ni gyfle y flwyddyn nesa!

 

Dafydd Morse
 

llinell