Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cymraeg i’r Teulu Unedau   1 - 15

Mae’r adran hon o’r Tiwtor ar gyfer y tiwtoriaid sy’n treialu’r pecyn newydd ar gyrsiau Cymraeg i’r Teulu.  Mae’r pecyn yn cynnwys unedau 1 -15 ac mae hynny’n cyfateb yn fras i dymor a hanner o waith i ddosbarth sy’n cyfarfod unwaith yr wythnos am wers o ddwy awr. Gall hynny amrywio, wrth gwrs, yn ôl anghenion dosbarthiadau unigol. Bydd y cwrs llawn yn cynnwys 60 o unedau, a bydd hwn yn barod erbyn Medi 2011.

Ar gyfer y treialu, mae llyfr cwrs wedi ei argraffu ar gael i bob dysgwr, fersiwn y de neu fersiwn y gogledd.  Hefyd, darperir Canllawiau a Phecyn Ymarfer a Gweithgareddau ar-lein i’r tiwtor eu hargraffu, a bydd y rhain ar gael yma ar wefan y cylchgrawn ar-lein, Y Tiwtor.  Gofynnir i bob tiwtor sy’n peilota am adborth, a chroesewir sylwadau ar bob agwedd ar y cwrs.

Canllawiau i Diwtoriaid:

Pecyn Ymarfer a Gweithgareddau:

Mae rhai o unedau'r Pecyn Ymarfer a Gweithgareddau'n cynnwys llawer o luniau, felly gallant fod yn araf i'w llwytho i'ch cyfrifiadur.

Fersiwn y de

Fersiwn y gogledd

Yn ogystal, mae rhai o’r caneuon a gyflwynir ar gael ar CD.  Cysylltwch â’r swyddfa am gopi o hwn.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â CBAC ar 02920 265007 neu
cymraegioedolion@cbac.co.uk.