Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 croeso

 

Yn aml clywir pobl yn sôn am ddatblygiadau newydd naill ai gyda chyffro neu gydag ansicrwydd. Wel, dim ond cyffro sydd o’n cwmpas ni yn y maes CiO wrth i ni ymdrin â thema’r rhifyn hwn, ac edrych ar dechnolegau newydd a sut y gellir defnyddio agweddau newydd ar dechnoleg yn ein dosbarthiadau. Mae Mal Pate yn olrhain sut y gellir Manteisio ar Dechnoleg, ac mae Terrry Barry a Gareth Mahoney yn cynnig cipolwg mwy cyffredinol ar Dechnoleg yn y Dosbarth a Thechnoleg a’r Dosbarth CiO.  

llun croesoYn ddiweddar, bu Lowri Jones Ar y trên i Brighton ac mae Janette Jones, CBAC, yn sôn am un agwedd arbennig ar Gynhadledd IATEFL, Brighton. Un arall sy’n rhannu ei phrofiadau yn y gynhadledd honno yw Philippa Gibson yn ei herthygl Cynhadledd IATEFL 2011 yn ysbrydoli.  

Yn y rhifyn hwn hefyd sonnir am adnoddau a Gemau iaith y Parot Piws ac mae Emyr Davies, CBAC, yn edrych ar yr Ymatebion i’r Arholiad Mynediad.

Dyma gyfle i chi enwebu tiwtor ar gyfer Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas 2011 a chyhoeddir enw’r enillydd wrth gwrs yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro. Ceir hefyd mwy o Newyddion o’r Eisteddfod gan y Swyddog Iaith, sef Enfys Thomas.

Rydym yn ymweld â Nant Gwrtheyrn ar ei newydd wedd a chawn ein tywys drwy’r llyfr Tense and Aspect in Informal Welsh gan Phyl Brake.

proffil
llinell

Pa diwtor o Fynytho, tybed, sydd yn ysbrydoli’r dysgwr o Fanceinion?

cystadleuaeth
llinell

Ewch i’r adran Cystadleuaeth i wybod mwy am Siop Lyfrau Caban yng Nghaerdydd ac am gyfle i ennill tocyn nwyddau gwerth £20.

deunydd dysgu
llinell

Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer pob lefel. Y tro hwn, ymysg pethau eraill, mae gennym dasgau ar y thema Cymharu Ansoddeiriau ac mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu adnoddau ac mae croeso i unrhyw un gysylltu os oes gennych chithau hefyd adnoddau i’w rhannu.

Pob hwyl!

llinell