Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

cystadleuaeth

llinell

gwobrSiop Rhiannon yn Nhregaron oedd yn cynnig y wobr ar gyfer cystadleuaeth y rhifyn diwethaf. Y wobr yw un o’u tlysau mwyaf poblogaidd, sef  tlws arian pitrwm-patrwm.  

Y cyfan oedd yn rhaid i chi ei wneud oedd ateb y cwestiwn hwn:

Beth yw enw perchennog Siop Rhiannon?

Yr ateb wrth gwrs yw Rhiannon Evans a’r enillydd yw Jocelyn Andrew o ardal Aberaeron. Llongyfarchiadau mawr iddi hi.

llinell

llun caban cystadleuaeth newydd
Saif Siop Lyfrau Caban yng nghanol dinas Caerdydd ac ers blwyddyn neu ddwy bellach mae nifer o drigolion Pontcanna yn ystyried y llecyn hwn yn dipyn o drysor.
Siop fach yw hi, ond yn orlawn o lyfrau ac anrhegion Cymraeg a dwyieithog.

Medrwch ddianc yma i gael hoe fach a mwynhau paned o goffi wrth ddewis eich nwyddau. Mae’r cornel coffi bron yn fwy poblogaidd na’r siop ei hun!

Ms Nia Owen yw'r perchennog ac fe agorwyd y siop yn 2001 gyda’r bwriad o gynnig gwaith i oedolion gydag anghenion dysgu. Mae’r staff cyfeillgar wrth law i roi cyngor ar CDs, llyfrau a theganau i blant yn ogystal â llyfrau i oedolion. 

Gellir prynu llyfrau cwrs Cymraeg i Oedolion CBAC yma hefyd yn ogystal â chael sgwrs Gymraeg dros baned!

Ewch draw i Bontcanna i weld yr holl wasanaethau a gynigir gan y siop groesawgar hon:

Caban
169 King's Rd
Pontcanna
Caerdydd
CF11 9DE
029 2034 2223

Siop Caban sy’n cynnig y wobr ar gyfer y gystadleuaeth newydd, sef tocyn nwyddau gwerth £20.

llinell

Atebwch y cwestiwn canlynol:

Ym mha ardal yng Nghaerdydd y mae siop Caban?

llinell

Medrwch anfon eich ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu, a’r dyddiad cau yw 6 Mehefin, 2011.

pob lwcllinell