Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl gwobrwyo

llinell

Gwobrwyo Dysgwyr 2010 

Cynhaliwyd seremoni cyflwyno tystysgrifau CBAC eleni eto yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy. Daeth llu o ymgeiswyr yr arholiadau Canolradd ac Uwch ynghyd ym Maes D ar benwythnos cyntaf yr Eisteddfod i ddathlu eu llwyddiant ac i gasglu eu tystysgrifau. Eleni, ar draws y chwe Chanolfan Iaith, roedd 230 o ymgeiswyr Canolradd a 56 o ymgeiswyr Uwch.

Branwen Gwyn, y gyflwynwraig, oedd y wraig wadd a fu’n dosbarthu’r tystysgrifau gydag Emyr Davies. Cafwyd sgwrs ddifyr iawn ganddi yn olrhain ei phrofiadau ym maes cerddoriaeth a chyflwyno.

llinell

Lansio’r Ffeil Hyfedredd

Hefyd ar 31 Gorffennaf, ym Maes D, lansiwyd y Ffeil Hyfedredd, sef ffeil o adnoddau i’w defnyddio mewn dosbarthiadau Gloywi Iaith neu Gymraeg Graenus. Mae’r adnoddau a geir yn y ffeil yn cefnogi’r cymhwyster ‘Tystysgrif Mewn Hyfedredd Iaith: Defnyddio’r Gymraeg.’ Yn y Ffeil ceir yr un unedau ag sydd yn y cymhwyster Hyfedredd ei hun, sef:

1. Cyflwyno
2. Cyfieithu a Thrawsieithu
3. Crynhoi a Gwerthuso
4. Project Ymchwil
5. Ysgrifennu Graenus

Mae’r 4 awdur wedi creu deunydd arbennig, sef Heini Gruffudd, Elin Meek, Eiry Miles, Steve Morris. Adnodd i’r tiwtor ei ddefnyddio yn y dosbarth yw hwn, nid i’r myfyriwr unigol ei ddefnyddio ar ei ben ei hun.  Ni roddir atebion, er bod rhai atebion enghreifftiol i’w cael, lle gallai hynny fod o ddefnydd.  Er hwylustod, darperir yr holl unedau ar ffurf electronig hefyd, mewn ffeiliau Word ar CD o fewn clawr y ffeil, er mwyn galluogi’r tiwtor i addasu’r taflenni fel y bo’r angen. 

Ar y CD, mae 5 ffeil electronig ar ffurf Word, yn cyfateb i’r unedau yn y ffeil ei hun.
Ar yr ail CD ceir ffeiliau sain, ac mae’r rhain ar gyfer tasgau trawsieithu (Uned 2) a thasgau crynhoi a gwerthuso (Uned 3).

Ar y lefel hon, mae anghenion a chefndir ieithyddol y rhai sy’n dod ar y cyrsiau’n amrywio’n fawr.  Rhaid i’r tiwtor ddethol o’r adnoddau a gynhwysir yn y ffeil a’u haddasu. Ceir mynegai i’r gweithgareddau, ond nid oes rhaid dilyn y drefn a nodir ac nid oes rhaid gwneud pob tasg.  Mae rhai o’r tasgau a awgrymir yn addas i’w defnyddio fel tystiolaeth efelychiadol o’r hyn y mae’r ymgeiswyr yn gallu ei wneud.

Yn ystod y lansiad, cafwyd blas ar rai o weithgareddau’r Ffeil dan arweiniad Emyr Davies.

Roedd yn dipyn o her i rai!

Pris y ffeil yw £14.95. Os am brynu copi o’r Ffeil cysylltwch â siopau llyfrau Cymraeg neu’r Cyngor Llyfrau.

* Diolch i Jo Knell a’i thîm ym Maes D am eu cymorth

llun lansio ffeil hyfedreddllinell