Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru
teitl tlws coffa

Eleni eto, ar 4 Awst 2010, yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent, cyflwynwyd y Tlws unigryw hwn i diwtor Cymraeg ymroddedig a thalentog. Yr enillydd oedd y tiwtor Ken Kane o Gaerdydd a chyflwynwyd y Tlws iddo gan Havard a Rhiannon Gregory mewn seremoni ffurfiol ar lwyfan y Pafiliwn. Llongyfarchiadau mawr iddo.

I goroni’r diwrnod arbennig hwn, ailgyflwynwyd y Tlws i Ken yn union cyn seremoni gwobrwyo Dysgwr y Flwyddyn yn Sefydliad y Glöwyr, Llanhiledd. Roedd hi’n noson braf a hamddenol gyda’r band Jac-y-Do yn annog pawb i ddawnsio!

llun tlws coffa
Mae Ken Kane yn diwtor Cymraeg i Oedolion ers blynyddoedd maith. Ar ddechrau’r saithdegau traddododd ddarlith gerbron mawrion ail-iaith ei gyfnod, sef Basil Davies, Cennard Davies a Chris Rees ar greu cwrs Cymraeg Dwys ac yn sgil hyn, aeth ati i lunio’r cwrs Wlpan cyntaf erioed a ddaeth yn sail i gymaint o’n cyrsiau dwys ni heddiw. Felly, yn ddigamsyniol, bu Ken yn arloeswr yn y maes. Er yn bensaer yn ôl ei alwedigaeth, bu’n gwasanaethu fel tiwtor digyflog am o leiaf ugain mlynedd. Dim ond pan ymunodd â thîm tiwtoriaid rhan-amser Cyngor Caerdydd y derbyniodd dâl haeddiannol am ei ddysgu am y tro cyntaf. Yn ystod ei yrfa, mae Ken wedi dysgu ar bob math o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau penwythnos, e. e. Cwrs Penwythnos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llangrannog lle bu’n diwtor hynod o boblogaidd am flynyddoedd.

tlws coffaMae Ken yn ddriliwr heb ei ail ac am flynyddoedd bu’n hyfforddi tiwtoriaid Canolfan Dysgu Cymraeg Prifysgol Caerdydd yn null yr Wlpan. Mae wedi ysbrydoli cannoedd os nad miloedd o ddysgwyr yn ystod ei gyfnod yn diwtor ac mae wedi ysgogi pobl eraill i ddod yn diwtoriaid yn eu tro, e. e. Gareth Kiff, Tiwtor Hŷn yn y Ganolfan. Tros y degawdau, mae Ken wedi rhoi’n hael o’i amser i gymdeithasu’r dysgwyr er mwyn mynd â’r iaith allan o’r dosbarth i’r byd go iawn. Mae yn un o wir gymeriadau’r byd Cymraeg i Oedolion ond er gwaethaf ei holl gyflawniadau, erys yn hynod ddiymhongar. Mae hefyd yn gymwynasgar tu hwnt, yn derbyn galwadau ffôn byr rybudd i ddysgu unrhywbryd rhwng 8.00 y bore a 9.00 y nos yn hollol ddirwgnach.

Ymddeolodd adeg y Pasg 2010, ar ôl bod yn dysgu oedolion am 41 o flynyddoedd.

Yn ogystal â gwobr ariannol a’r Tlws hardd i’w gadw am flwyddyn, cyflwynwyd darn arbennig o femrwn Gregynog i’r enillydd hefyd, yn gofnod parhaol personol. Llawer o ddiolch, felly, i Havard Gregory am drefnu a noddi’r gwobrau.

llinell