Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

proffil tiwtor

Merch o Fangor yw Manon Eames ond mae ei gwreiddiau hefyd yn ardal Pontypridd a Phen-y-bont. Ar ôl derbyn ei haddysg yn y gogledd aeth ymlaen i Brifysgol Manceinion i astudio Saesneg a Drama. Yn dilyn y cyfnod hwnnw mae hi wedi parhau i weithio ym myd y ddrama a’r cyfryngau hyd heddiw. Mae nifer o’i phrojectau yn adnabyddus i ni gyd, yn enwedig y projectau Theatr Mewn Addysg: Theatr Bara Caws, Theatr Gorllewin Morgannwg, Theatr Clwyd, Hanner Awr Fawr, Tocyn Diwrnod, Clwb Garddio, Pobol y Cwm ...  mae’r rhestr yn ddiddiwedd!  

Yn ogystal ag actio a chyflwyno, mae Manon hefyd yn ysgrifennu ac yn addasu nofelau a sgriptiau. Hi addasodd nofel Alexander Cordell, ‘Rape of the Fair Country,’’ sy’n adlewyrchu ei hoffter o hanes hefyd, ac mae hynny i’w ddisgwyl o gofio mai ei thad oedd Aled Eames, yr hanesydd mawr.

Mae hi wedi ymgartrefu yn Abertawe ers 1984 ac mae hi wrth ei bodd yno, yn crwydro’r traethau bob bore gydag Ollie y labrador. Yn ogystal â’r tirwedd a’r arfordir, dywed hefyd fod hiwmor unigryw trigolion Abertawe yn apelio’n fawr ati. Maen nhw’n hollol wahanol i’r bobl y mae’n dod ar eu traws ym myd y cyfryngau!   

Newydd ymuno â’r byd Cymraeg i oedolion y mae Manon a hynny am sawl rheswm. Gyda’r toriadau yn effeithio ar ddiwydiant y cyfryngau rhaid oedd meddwl am ddargyfeirio ychydig, a hefyd mae hi’n gweld y cam i fyd CiO yn gam naturiol iddi am ei bod wedi ymwneud â’r Gymraeg a’r byd addysg, a Theatr Mewn Addysg, am ran helaeth o’i gyrfa. Mae gwaed ieithydd ganddi hefyd: athrawes Ffrangeg oedd ei mam ac mae Manon ei hun yn siarad Ffrangeg yn rhugl.

Mae hi wedi cwblhau’r Cymhwyster Cenedlaethol i diwtoriaid dan ofal Canolfan CiO y De Orllewin ac yn ysu am gael mynd i’r afael â’i dosbarth cyntaf! Mae Tŷ Tawe erbyn hyn fel ail gartref iddi a chafodd brofiadau gwerthfawr ar y cyrsiau penwythnos. Iddi hi, un o uchafbwyntiau’r Cymhwyster oedd cael sesiwn dysgu Portiwgaleg gan Steve Morris! Roedd hynny’n ffordd wych o ddod i ddeall problemau dysgwyr. Mae’n gyfnod newydd i’w phartner hefyd gan ei fod ef newydd gofrestru i ddechrau cwrs Mynediad .... a chafodd sioc o glywed pwy fydd tiwtor y dosbarth newydd hwn, sef Manon!

Pan fydd cyfle ganddi i gael hoe fach o’r actio a’r ysgrifennu, mae Manon yn mwynhau garddio a gwylio rygbi. Mae’n cefnogi’r Gweilch, a Chymru wrth gwrs, a hyd yn oed wedi teithio i Seland Newydd i weld y Llewod yn chwarae! Mae ganddi gysylltiadau agos â Thwrci hefyd ac yn teithio yno’n aml. Yn ogystal â hynny, mae Manon yn un o’r bobl brin hynny sy’n mwynhau DIY!

Mae dydd y farn ar y gorwel a dywed mai ei neges bwysicaf i’w dysgwyr fydd i fod yn amyneddgar a sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw gropian cyn cerdded. Bydd yn rhaid iddynt hefyd fod yn frwdfrydig a manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth.

Pob hwyl iddi gyda’r llinyn newydd, cyffrous hwn i’w gyrfa. 

 

llinell