Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

teitl ALTECynhaliwyd cyfarfod arferol ALTE i gyd-daro â chynhadledd fawr ALTE eleni ym mis Gorffennaf yn Krakow. Dyma sylwadau ar y ddau.


llun alteCyfarfod ALTE

Pwyllgor Gwaith
Trafodwyd nifer o faterion ariannol a chyfansoddiadol. Mae cyfansoddiad drafft ar waith, ond mae llawer o drafod i ddigwydd cyn ei gael yn barod, ac ystyriaethau cyfreithiol i’w gwyntyllu.

Cafwyd trafodaeth ar y Q-mark a ddyfernir i arholiadau a fydd yn llwyddo yn yr awdit. Hefyd, trafodwyd gwefan ALTE, gan nodi’r bwriad o ddatblygu’r fforwm trafod.

SIG (Grwpiau trafod) y Fframwaith - CEFR
Bu’r grŵp hwn yn gweithio ar ddau beth yn benodol: (i) llawlyfr ar ddatblygu’r arholiadau a (ii) gridiau i helpu cyrff i ddadansoddi a diffinio’u harholiadau. Mae’r llawlyfr Manual for Language Test Development and Examining yn barod ac wedi ei gyhoeddi. Ceir copïau ar wefan Cyngor Ewrop neu gellir prynu copïau caled gan Wasg Prifysgol Caergrawnt. Mae rhai copïau caled o’r llyfr ar gael gan CBAC.  Dyma’r ddolen: http://www.coe.int/t/dg4/linguistic/ManualtLangageTest-Alte2011_EN.pdf

Bu’r grŵp yn gweithio ar ffurflen adborth i’r llawlyfr er mwyn adrodd i Gyngor Ewrop am y defnydd a wneir ohono. Mae’r Gridiau ar gyfer diffinio profion siarad ac ysgrifennu ar gael ar wefan Cyngor Ewrop hefyd ac mae gwella’r rhain yn broses barhaus. Dyma’r ddolen i’r grid siarad:

http://www.coe.int/t/DG4/Portfolio/documents/ALTE%20CEFR%20Speaking%20Grid%20OUTput51.pdf
a’r grid ysgrifennu: www.coe.int/t/DG4/Portfolio/.../CEFRWritingGridv3_1_analysis.doc

SIG (Grwpiau trafod ) Cod Ymarfer ALTE
Mae’r grŵp hwn yn llywio’r gwaith a wneir ar y broses awdit y mae aelodau ALTE’n ei gyflawni. Ar ôl cwblhau’r gyfres gyntaf o awditiau (yn cynnwys arholiadau Mynediad a Sylfaen CBAC), bydd y gyfres nesaf yn fwy trylwyr, ac yn anelu at fwy o gysondeb wrth ddehongli’r safonau a ddiffiniwyd. Rhoddwyd dadansoddiad o un o’r safonau gan aelod o’r Pwyllgor gan amlygu’r anawsterau a’r anghysonderau a welwyd y tro cyntaf.

llun alte

Cynhadledd ALTE

Dyma’r bedwaredd gynhadledd fawr agored i ALTE ei threfnu, gyda thros 60 o siaradwyr a 400 o gynadleddwyr.  Cynhaliwyd y gyntaf yn Barcelona 2001, yr ail yn Berlin yn 2005 a’r un ddiwethaf yng Nghaergrawnt yn 2008.  Thema’r gynhadledd hon oedd Effaith Fframweithiau Iaith ar Asesu a Dysgu: polisïau, gweithdrefnau a heriau.  Fe’i cynhaliwyd gyda chymorth Prifysgol y Jagellonian, Krakow.

Rhoddwyd darlith gan Steve Morris o Gymru ar ddatblygu geirfa graidd i A1 ac A2 (Mynediad a Sylfaen),  ac roedd amryw gynadleddwyr wedi dod i’r sesiwn honno.  Roedd cryn ddiddordeb yn y dulliau a ddefnyddiwyd i hel geirfâu ac i ddistyllu’r rhestri terfynol.  

Dyma grynhoi rhai o sesiynau’r siaradwyr eraill:

Lyle Bachman
Bachman yw’r awdur a’r arbenigwr mwyaf enwog ym maes asesu ieithoedd yn y byd. Ystyrir ei lyfrau ar asesu Language Testing in Practice (OUP 1996) a Fundamental Considerations in Language Testing (OUP 1990) yn hanfodol. Mae ei gyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys Statistical Analyses for Language Assessment (CUP 2004) a Language Assessment in Practice: Developing Language Assessments and Justifying their Use in the Real World (gyda Adrian Palmer, OUP 2010). Roedd ei ddarlith yn ymwneud â’r mathau gwahanol o fframweithiau a pheryglon ceisio cysylltu arholiadau â fframweithiau anghymarus.

Rhoddodd amlinelliad o sut mae pobl wedi synio am iaith dros y blynyddoedd, o Sassure, Chomsky i strwythurwyr fel Halliday. Ymhlith nifer o fframweithiau pwysig sydd wedi ymddangos er y 1960au mae:

  1. Skills and components (Lado & Carroll) - rhannu’n sgiliau, gramadeg ac orgraff;
  2. Pragmatic expectancy grammar - yn cynnwys profion ar-ddweud, profion ‘sŵn’.
  3. Fframwaith cyfathrebol - yn yr UD dechreuodd hyn gydag erthygl ddylanwadol Merrill & Swain; yn y DU roedd unigolion fel Morrow ac Alderson yn gweithio i’r un cyfeiriad.
  4. Task-based performance assessment - ‘y dasg yw’r lluniad’; hynny yw, diffinnir medr iaith drwy’r tasgau y gellir eu cyflawni yn unig.

Rhannodd Bachman fframweithiau yn ddwy: naill ai (a) can-do... (yr hyn y gall y dysgwr ei wneud mewn cyd-destunau real); neu (b) medr... (sy’n canolbwytio ar gymhwysedd iaith). Mae (a) yn apelio at leygwyr yn aml, meddai, ond nid yw’r canlyniadau’n ddibynadwy nac yn rhoi adborth defnyddiol i’r dysgwr; mae’r rhan fwyaf o gymwysterau’n seiliedig ar fedr, a dyna sut mae tiwtoriaid (a dysgwyr) gan amlaf yn meddwl am eu cyflawniad. 

Pam cysylltu â fframwaith o gwbl? Dywedir yn aml fod angen rhyw ffon fesur gyffredin i arholiadau neu gymwysterau o unrhyw fath. Mae deddf gwlad yn gallu mynnu bod hyn yn digwydd; hefyd mae cymhellion eraill, e.e. i sefydlu safon aur, dibenion marchnata ac ati. Yn fwy na hynny, mae gofyn cynyddol i ddarparwyr arholiadau fod yn atebol yn yr hyn a wneir ganddynt.

Wrth ddatblygu arholiadau, rhaid gofyn ‘Pam mae’r arholiad hwn yn cael ei ddatblygu?’ Wedi meddwl am yr ateb, mae hynny’n help i ddiffinio’r canlyniadau a fwriadwyd. Rhaid hefyd mynd ati i fesur y canlyniadau anfwriadol.

Er mwyn cysylltu arholiadau’n llwyddiannus â fframwaith iaith, yn ôl Bachman, mae tair hanfod:

  1. bod y lluniad (‘construct’ neu’r diffiniad o iaith) yn debyg
  2. bod y tasgau a roddir i’r ymgeiswyr yn debyg
  3. bod y defnydd y bwriedir ei wneud ohonynt yn debyg

Roedd yn gweld llawer o broblemau wrth geisio cysylltu profion iaith (a seilir ar gymhwysedd ieithyddol) â fframwaith (fel y CEFR) a seilir ar yr hyn y gellir ei wneud.

Nicola Carty
Mae Nicola’n gweithio ym Mhrifysgol Glasgow ar faterion yn ymwneud â Gaeleg yr Alban.   Gwyddeles yw Nicola, sy’n gwneud ymchwil ar ddatblygu’r Aeleg. Rhoddodd ddarlun o gyflwr yr iaith a chyfeirio at rai o’r blaenoriaethau roedd hi’n eu canfod, ac un o’r rhain oedd datblygu fframwaith tebyg i fframwaith CBAC a’r fframwaith a ddatblygwyd ym Maynooth ar gyfer y Wyddeleg.

Anthony Green
Roedd sgwrs Anthony Green yn sôn am Password neu brawf Saesneg ar gyfer mynediad i brifysgolion, sy’n seiliedig ar ramadeg a geirfa. Y rhagdybiaeth yw mai dyma’r ffordd orau o ragdybio gallu a pherfformiad cyffredinol mewn cyd-destun academaidd. Gellir cael hyd i ragor o wybodaeth am y ganolfan ym Mhrifysgol Swydd Bedford (CRELLA), lle mae Anthony Green yn gweithio, ar y wefan hon:
www.beds.ac.uk/research/bmri/crella
a gellir gweld y profion ar:
www.englishlanguagetesting.co.uk

Brian North / Elzbieta Jarosz
Brian North yw un o lunwyr y CEFR, ac un o sylfaenwyr Eaquals sy’n gyfrifol am ganolfannau iaith dros Ewrop. Gyda system EAQUALS, y ganolfan sy’n gyfrifol am greu’r asesiadau eu hunain. Maen nhw wedyn yn arolygu’r canolfannau i wirio bod ganddynt:

Rhaid i ganolfannau gael hyfforddiant ar safoni, ar weithdrefnau asesu a gofynion helaeth eraill o ran sicrhau bod yr asesiadau a gynhelir yn deg ac yn gywir.

Neil Jones
Trafododd Neil Jones y syniad o gael fframwaith mwy cynhwysol ar gyfer ieithoedd nag a gynigir gan y CEFR. Mae’r CEFR, meddai, yn system ‘agored’ - system y gellir ei addasu ac ychwanegu ato.  Bwriad y CEFR yw cymharu cyd-destunau trwy ddefnyddio graddfeydd o ddisgrifyddion (er bod tuedd i’w defnyddio fel diffiniadau). Nid yw’r CEFR yn delio â datblygiad gwybyddol dysgwyr ifainc; nid yw ychwaith yn delio â dysgu pethau eraill trwy gyfrwng yr iaith darged. Fodd bynnag, mae lefelau C1 ac C2 yn y CEFR yn cyfeirio at sgiliau ar lefel wybyddol a dyna baradocs y fframwaith hwnnw - mae siaradwyr iaith gyntaf yn aml yn dweud na allen nhw gwrdd â’r disgrifyddion yn y lefelau hynny. Dadl Neil Jones oedd bod angen meddwl yn nhermau addysg gyfan i gael fframwaith mwy defnyddiol, yn hytrach nag am hyfedredd ieithyddol yn unig.

Elana Shohamy

Elana Shohamy o Brifysgol Tel Aviv oedd siaradwr olaf y gynhadledd.  Mae hi’n perthyn i’r ‘ysgol feirniadol’ sy’n amlygu problemau a pheryglon asesu. Roedd hi’n gweld y CEFR bellach fel ‘global tool’, sydd wedi tyfu i raddau tebyg i’r iaith Saesneg i fod yn fwy na’r un arall. Mae’n cael ei dderbyn yn ddigwestiwn yn aml, ac weithiau’n disodli arferion a meini prawf asesu lleol sy’n fwy priodol.  Roedd ganddi sawl beirniadaeth ar y fframwaith:

  1. mae’n canolbwyntio ar brofion uniaith, er bod cymdeithasau ledled y byd yn fwyfwy amlieithog;
  2. mae’n cynnig golwg gyfyng ar ddysgu ail iaith, nad yw wedi ei gysylltu â galluoedd eraill, e.e. sgiliau gwybyddol cysylltiedig;
  3. mae’n rhagdybio bod dysgu’n llinol (ac yn daclus), ond mae’r gwir yn wahanol iawn.

Roedd hi’n awgrymu ehangu’r fframwaith i ystyried materion fel trawsieithu, amrywiadau iaith (varieties of English). Dywedodd y dylid hefyd edrych ar gymwyseddau gwybyddol ochr yn ochr â’r ‘can-dos’ cyfarwydd; hefyd fod angen ystyried cymhwysedd digidol yng nghyd-destun iaith. Cyfeiriodd at gyfrol y bu’n ei chydolygu, sef:
Linguistic Landscape: Expanding the Scenery
Golygwyd gan Elana Shohamy gyda Durk Gorter, Routledge 2008

Cafwyd darlithiau eraill am brojectau penodol: 
Michaela Perlmann-Baume yn sôn am broject Ewropeaidd ‘Surveylang’ i fesur gallu dysgwyr ieithoedd tramor yn eu harddegau ar draws nifer o wledydd; Michael Corrigan yn sôn am yr arholiadau Eidaleg, a sut i sicrhau cysondeb ar draws blynyddoedd, lle nad oedd arholiadau eu hunain mor anodd / hawdd â’i gilydd; Giuliana Grego-Bolli yn sôn am fewnfudwyr a phroblemau dysgu’r Eidaleg i fewnfudwyr sydd yn anllythrennog yn aml; Testun Waldemar Martyniuk oedd polisïau iaith Cyngor Ewrop ac effaith y polisïau hynny ar asesu ac addysgu iaith; Cafwyd adroddiad gan Angeliki Salamoura ac Annette Capel ar broject yr English Profile a goblygiadau’r project hwnnw i addysgwyr ac aseswyr;  Roedd tua 100 o siaradwyr i gyd, a cheir manylion am y rhaglen ar wefan ALTE. Maes o law cyhoeddir crynodeb o ddarlithiau’r siaradwyr.

www.alte.org

Emyr Davies
Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC

 

llinell