Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl adnoddau





Panel Adnoddau Cymraeg i Oedolion

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Panel Adnoddau Cymraeg i Oedolion AdAS yn ystod mis Mehefin. Pwrpas y panel hwn (sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r Canolfannau) yw cynnig argymhellion ar gyfer y rhaglen gomisiynu, trafod datblygiadau yn y maes, ac arolygu adnoddau wedi’u cyhoeddi.
Derbyniodd y panel newyddion am 10 project a ariannwyd gan Uned Cymraeg Mewn Addysg, AdAS, yn ystod 2010-2011:

Geiriau Glo
Pecyn Amgueddfa Lofaol Cymru, lefelau Mynediad a Sylfaen - http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2847/

Llyfrau Darllen (Y Lolfa)
2 lyfr ar bob lefel ar gyfer Mynediad, Sylfaen a Chanolradd, i’w gyhoeddi yn 2012.

llun CiTCymraeg i’r Teulu (CBAC)
Adnoddau cynhwysfawr ar gyfer cwrs 60 uned. Cyhoeddwyd llyfr 1 ym mis Medi eleni; llyfr 2 ar y ffordd yn 2012, yn ogystal â deunyddiau clywedol, cardiau fflach ac yn y blaen.

Amser Stori (Telesgop)
DVD i gefnogi dysgwyr darllen i blant bach – ar y gweill

Pecyn Gwrando (CBAC)
Ar y gweill - i’w gyhoeddi 2012

Gweithgareddau Cwrs Dwys (Telesgop)
Gweithgareddau rhyngweithiol – ar y gweill

cardiau fflach3DVD o glipiau ar gyfer dysgwyr ar lefelau Sylfaen i Ganolradd (Telesgop)
Ar y gweill.

Cronfa ddata (Telesgop)
Cronfa ddata o ddeunydd CiO sy wedi’i gyhoeddi neu ar-lein. Ar y gweill.

Cardiau Fflach 3 (CBAC)
Set o gardiau, maint cardiau chwarae. Ar y gweill.

Ac, wrth gwrs, cylchgrawn ar-lein Y Tiwtor.

Cytunwyd ar y blaenoriaethau canlynol ar gyfer 2011-12, sef:

Rhith-amgylchedd Dysgu cenedlaethol CiO

Enillodd CBAC y tendr i greu cynnwys ar-lein i diwtoriaid a dysgwyr ar y ‘Mwdl’ cenedlaethol Cymraeg i Oedolion newydd.

Nod y deunydd yw rhannu arfer da, gwella'r safonau addysgu a chodi proffil y sector Cymraeg i Oedolion. Bydd y deunyddiau’n disodli cylchgrawn Y Tiwtor fel gwasanaeth digidol i diwtoriaid ac yn cynnwys gwybodaeth, erthyglau a gweithgareddau dysgu'n rheolaidd drwy gydol y tymor. Bydd y deunydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth a gweithgareddau i ddysgwyr.

Bydd mwy o wybodaeth yn rhifyn nesaf Y Tiwtor.


llinell