Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

teitl steddfod

Mae wythnos Eisteddfod Wrecsam drosodd – ac wythnos wych oedd hi hefyd. Nid fy ngeiriau i ond y farn gyffredinol ymysg y miloedd a ddaeth i gaeau’r Bers Isa rhwng 30 Gorffennaf a’r 6 Awst eleni i fwynhau’r Brifwyl. Mae fy ngwaith innau fel Swyddog y Dysgwyr wedi dod i ben hefyd a hoffwn ddiolch i bawb a gyfranodd at lwyddiant yr Eisteddfod yn gyffredinol, a Maes D a gweithgareddau’r dysgwyr yn benodol.

Y dasg dan sylw yn y cyfarfod cyntaf yn ôl ym mis Tachwedd 2009 oedd dewis testunau Llwyfan a Chyfansoddi gan sicrhau amrediad o lefelau  – MYNEDIAD, SYLFAEN a CHANOLRADD. Hefyd aed ati i ddewis beirniaid. Diolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith.

Wrth gwrs roedd rhai cystadlaethau yn fwy poblogaidd na’i gilydd ond roedd teilyngdod ymhob cystadleuaeth heblaw 129 sef y dasg o greu deunydd ar gyfer dysgwyr. Efallai bod angen gosod mwy o ganllawiau ar gyfer cystadleuaeth o’r fath. Yn amlwg nid yw’r rhai sydd wrthi’n dysgu’r Gymraeg yn bobl sydd yn hoffi cwyno a dydyn nhw ddim yn hoff iawn o gymryd rhan mewn sgets chwaith gan mai prin oedd y cystadleuwyr yn y ddwy gystadleuaeth yma.

Yn flynyddol un o brif ddigwyddiadau’r Eisteddfod yw Noson Dysgwr y Flwyddyn. Cynhaliwyd y noson hon yn y Neuadd Goffa ym Modhyfryd, Wrecsam nos Fercher 3 Awst 2011. Daeth 130 o bobl ynghyd i fwynhau derbyniad ‘Champagne a canapés’, cinio 3 chwrs, ac adloniant gan Charlotte Thomas (ffliwt) a Bethan Griffiths (telyn) ar gyfer y derbyniad ac adloniant gan ‘Parti Penllan’ yn ystod ac ar ddiwedd y noson. Roedd yr arlwyaeth yng ngofal Rendezvous, Coleg Iâl, Wrecsam.  Arweinydd y noson oedd Nic Parry. Roedd y Neuadd Goffa yn edrych yn hardd gyda’r carped coch, y bynting, a’r balŵns – y cyfan yn lliw glaswyrdd yr Eisteddfod.

Enillydd y tlws (llun hardd o Bont Cario Dŵr, Pontcysyllte o waith yr artist Max Hamblen a £300 gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru - CCiO) oedd Kay Holder o Benarth.

Mae dau fath o lwyddiant i Eisteddfod mewn unrhyw ardal sef llwyddiant yr wythnos ei hun ond hefyd y llwyddiant a ddaw o fesur y gwaddol sy’n aros yn yr ardal o ran y Gymraeg a’r diwylliant sy’n perthyn iddi. Efallai bydd rhai ohonoch yn cofio i ni gyfeirio at gerdd Bryan Martin Davies ‘Eira yn Wrecsam’ yn rhifyn mis Gorffennaf wrth iddo gyfeirio at ymweliad yr Eisteddfod â Wrecsam ym 1977.

‘Ddoe
            roedd eira’n drwch dros y dre
Fel heniaith gyfarwydd o’r henwlad uchel
Daeth atom am dro i’r dre.’

Ond y gobaith yw y bydd gwaddol go sylweddol o’r heniaith gyfarwydd yn aros wedi i’r Eisteddfod hen ddiflannu o’r tir.

Y nod oedd paratoi arlwy o safon a fyddai’n rhoi cyfle i ddysgwyr wneud defnydd o’u Cymraeg i ennyn hyder, teimlad o lwyddiant a theimlad o fod yn rhan o’r diwylliant ‘go iawn’ sy’n perthyn i’r Ŵyl. Y gobaith oedd cynnig gweithgareddau a fyddai’n apelio at ddysgwyr a Chymry Cymraeg.

Mae’r ffaith i bron i 33,300 o bobl ymweld â Maes D yn ystod yr wythnos yn awgrymu ein bod wedi llwyddo i wneud hynny. Hefyd derbyniwyd nifer helaeth o gardiau, galwadau ffôn, llythyrau ac e-byst yn canmol y gweithgareddau a drefnwyd ar gyfer Maes D. Braf hefyd oedd darllen geiriau caredig Angharad Tomos yn yr Herald Gymraeg yr wythnos wedi’r Ŵyl:

‘Unwaith yn rhagor roedd rhaglen Maes D yn un difyr eithriadol a diolch iddynt am ddangos ‘Patagonia’, fe’i mwynheuais yn fawr.’

Roedd yr agoriad swyddogol yn wych a hyn yn gosod yr awyrgylch am yr wythnos mi gredaf. Cafwyd gorymdaith hynod atyniadol (a swnllyd yn ôl Nic Parry oedd yn arwain o’r llwyfan ar y pryd!)) o Fynedfa 2 o dan arweiniad Band Cambria. Daeth tyrfa niferus ynghyd i fwynhau’r dathlu gan gynnwys camerâu’r BBC. Roedd croesawu Siân Lloyd, BBC, yn ôl i’w chynefin yn hyfryd a’r eitemau gan Barti’r Pentan yn safonol dros ben.

Wrth gwrs roedd sesiwn cyflwyno tystysgrifau CBAC yn denu nifer fawr a’r sesiynau blasu iaith yn boblogaidd hefyd trwy gydol yr wythnos. Gwnaed y penderfyniad i beidio â chynnig gwersi iaith ond yn hytrach pwysleisio defnydd o’r iaith gan y rhai oedd yn dysgu neu wedi dysgu.

Diolch i’r cwmnïau oedd wedi gosod stondin ym Maes D am yr wythnos:
ACEN, Say Something in Welsh, Nant Gwrtheyrn ac Adran Addysg y BBC. Roedd pob un ohonynt wedi bod yn brysur tu hwnt, medden nhw, yn ateb cwestiynau ac yn cynghori ynglŷn â chyrsiau Cymraeg a’r gynhaliaeth sydd i’w gael ar y we.

Roedd y seremoni trosglwyddo i Fro Morgannwg yn hynod o lwyddiannus yng nghwmni Band Tegeingl, Les Barker a chynrychiolwyr o Bwyllgor y Dysgwyr Wrecsam ac o Bwyllgor Gwaith Bro Morgannwg. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddymuno pob lwc i Gwennol Haf, Swyddog y Dysgwyr ac i Adrian Price a’r tîm ar gyfer yr Ŵyl yn 2012.

Y ffordd ymlaen
Mewn geiriau eraill, sut i sicrhau bod ‘yr eira’n swatio’n styfnig uwchben y dref ...,’ i ddyfynu cerdd Bryan Martin Davies eto.

Tamaid i aros pryd – fel petai.

llun steddfod