# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008
  clecs.jpg clecs2.jpg

     Eisteddfod

Julie Macmillan

(Dysgwr y Flwyddyn 2007)

a Glyn Wise ym

Mhabell y Dysgwyr



Disgwylir haf poeth eleni a pha le poethach sydd na Chaerdydd, yn enwedig pan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â’r brifddinas o 2 i 9 Awst!
    A’r lle poethaf oll wrth gwrs fydd Pabell y Dysgwyr, sef Maes D. Yma y cynhelir cystadlaethau’r dysgwyr ac ar ddydd Sadwrn 2 Awst yma hefyd y cyflwynir tystysgrifau CBAC. Ar y diwrnod hwnnw yn ogystal byddwn yn darganfod pwy sydd wedi ennill cystadleuaeth y rhifyn hwn o’r Tiwtor, sef penwythnos i ddau yn Nant Gwrtheyrn! Cofiwch ateb y cwestiwn hollbwysig hwnnw:
Beth oedd enw cariad Meinir?


clecs3.jpg

 Maes D 2007


Rhoddir proffil uchel i gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn hefyd ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld pwy sydd ar y rhestr fer eleni a phwy, yn y pen draw, a wobrwyir am ei hymdrechion / ymdrechion.
    Cawn wybod hefyd pa diwtor fydd yn ennill Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas.


digwydd2.jpg
A sôn am wobrwyo ymdrechion….

Limerig!
Dyma ganlyniadau cystadleuaeth gorffen y limerig a gynhaliwyd ar adeg lansio’r Tiwtor yn Llangollen. Llongyfarchiadau i bawb a aeth ati i greu llinell ac fe gafwyd amser difyr iawn yn darllen trwy’r ceisiadau! Rydym yn dal i ddisgwyl am rai limrigau o’r rhanbarthau eraill…!

Yn gyntaf:
Edna   
                   Do, crasfa ga’th Lloegr gan Gymru
                   Un diwrnod yn London, you see,
                   Fe giciodd James Hook
                   Gan bwsho ei lwc,
                   O, ‘rargol - mae’r hync ‘ma yn lyfli!

Yn ail:
Sue Roberts o’r Canolbarth
                   Do, crasfa ga’th Lloegr gan Gymru
                   Un diwrnod yn London, you see,
                   Fe giciodd James Hook
                   Gan bwsho ei lwc,
                   Ond dal mewn tŷ tafarn ‘rym ni!

Yn drydydd:
Ann T. Jones
                   Do, crasfa ga’th Lloegr gan Gymru
                   Un diwrnod yn London, you see,
                   Fe giciodd James Hook
                   Gan bwsho ei lwc,
                   A rhoi buddugoliaeth i ni.

digwydd2.jpg
     Wynebau Newydd…

Ein dymuniadau gorau i’r canlynol ar eu penodiadau newydd a chroeso mawr i’r maes Cymraeg i Oedolion, er mae’n siwr bod rhai ohonynt eisoes yn brofiadol iawn yn y maes:
Janette Jones, Swyddog Credydau Cymraeg i Oedolion gyda CBAC
Mair Evans, tiwtor hyfforddiant a phreswyl gyda Chanolfan Caerdydd a Bro Morgannwg
Frank Bonello, tiwtor drefnydd rhanbarthol gyda Chanolfan Caerdydd a Bro Morgannwg
Gareth Clee, tiwtor cwricwlwm gyda Chanolfan Caerdydd a Bro Morgannwg

digwydd2.jpg
     Panel Adnoddau

Cynhelir Panel Adnoddau Cymraeg i Oedolion APADGOS cyn diwedd mis Mehefin. Mae’r panel yn cwrdd unwaith y flwyddyn i drafod blaenoriaethau ar gyfer y rhaglen gomisiynu.
    Mae croeso i chi anfon sylwadau a syniadau am yr adnoddau yr hoffech eu gweld yn cael eu comisiynu yn ystod y flwyddyn nesaf at:
                   Liz Powell, APADGOS, Tŷ’r Afon, Heol Bedwas, Caerffili, CF83 8WT
                   liz.powell@cymru.gsi.gov.uk
erbyn dydd Gwener 20 Mehefin.

Am fwy o fanylion am adnoddau addysgu a dysgu a gomisiynwyd / ariannwyd eisoes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, neu am brojectau sydd ar y gweill, ewch i

digwydd2.jpg
     Y Maes

Cyhoeddir Y Maes yn ystod yr wythnosau nesaf, sef cylchlythyr yn ymwneud â’r maes Cymraeg i Oedolion. Os oes gennych chi rywbeth penodol yr hoffech ei gyfrannu at y cylchlythyr hwnnw, cysylltwch â cymraegioedolion@cbac.co.uk

digwydd2.jpg
2tiwtor_side.jpg
     Y Tiwtor

Cyhoeddir rhifyn nesaf y Tiwtor ym mis Medi. Mae croeso i chi anfon unrhyw gyfraniadau ac adborth atom. Os hoffech gysylltu â ni, defnyddiwch y ffurflen sylwadau yn yr adran ‘Cysylltu.’

Ac yn olaf –
cofiwch am y gystadleuaeth i ennill
gwyliau i ddau yn Nant Gwrtheyrn!

iidigwydd3.jpg