# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008
   Cymwysterau a hyfforddiant

Dyna i chi eiriau sy’n codi ofn ar bobl!

cymwyst1.jpg
Ydyn ni’n gymwys i ddysgu? Ydyn ni’n gymwys i ddysgu oedolion? Ydyn ni’n gymwys i ddysgu Cymraeg? Ydyn ni’n gymwys i ddysgu yn y gymuned? Dw i’n ofni bod llawer o bobl, gan gynnwys fi fy hunan, yn ansicr i ddweud y lleiaf!
    Bydd rhai wedi fy nghlywed i’n dweud yn glir nad ydych yn caniatáu i rywun yrru bws os nad oes trwydded ‘da nhw ac o safbwynt gwaith cyflogedig dw i’n credu bod eisiau yr un agwedd at ddysgu Cymraeg i Oedolion. Mae angen i ni fod yn gymwys!

Felly beth sydd gyda ni ar hyn o bryd?
Mae holiadur diweddar Archwiliad Sgiliau Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn rhestru’r canlynol fel cymwysterau addysgu:-
•  B.Ed / TAR / Tyst Addysg (Ysgolion)
•  TAR / Tyst. Addysg (Addysg a Hyfforddiant)
•  City & Guilds 7307
•  Unedau TDLB / A
•  Tystysgrif Cymraeg i Oedolion CBAC
•  Arall
•  Heb statws athro cymwys

Yn rhyfedd iawn i mi nid oes cyfeiriad at TACiO neu Y Cymhwyster Cenedlaethol y mae cymaint o sôn amdano er bod cynllun peilot wedi rhedeg yng Nghaerdydd ers sbel a chynlluniau nawr yn gweithredu trwy Gymru gyfan (dwi’n meddwl). Efallai y gellid deall hyn oherwydd nad oes ganddo statws cydnabyddedig eto er cymaint o waith ac ymchwil gan Brifysgol Caerdydd dros gyfnod o flynyddoedd.
    Hyd yn oed yn fwy rhyfedd i mi yw’r diffyg cyfeiriad at ETO1 gan taw dyna’r cymhwyster dw i’n deall sy’n sefyll ar hyn o bryd fel y cymhwyster sydd ei angen ar gyfer dysgu yn y gymuned, yn ôl asiantaethau Addysg Gymunedol y gwahanol siroedd a Choleg Addysg Bellach dw i’n ymwneud â nhw.

Beth ydy ETO1 meddai sawl un?
Wel, mae’n debyg taw y darn cyntaf o’r TAR (Addysg a Hyfforddiant) ydy ETO1 ac y mae yn llawer iawn llai o beth na’r TAR cyfan. Yng Ngholeg Yr Hill, Y Fenni, y mae modd gwneud ETO1 dros 4 penwythnos neu o fewn un wythnos llawn amser. Mae hyn o fewn cyrraedd y mwyafrif o diwtoriaid llaw rhydd nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd. Mae’n cymharu yn ffafriol iawn gyda TAR cyfan sy’n cymryd dwy flynedd i’w gwblhau ac yn llawer iawn mwy o beth.

Beth y mae ET01 yn ei roi i ni?
Cymhwyster cydnabyddedig i ddysgu yn y gymuned.

Beth nad yw ETO1 yn ei roi i ni?
Wel, cymhwyster dysgu cyffredinol ydy ETO1. Ceir yr un cwrs a’r un cymhwyster ar gyfer dysgu Cymraeg, Maths, trefnu blodau, Ffrangeg a thrwsio ceir ac ati. Hynny yw, nid oes arbenigedd dysgu iaith tu ôl i ETO1. Yn amlwg mae dal angen dysgu sut mae dysgu iaith, yn ogystal â dysgu sut mae dysgu fel petai.

Beth yw’r newyddion drwg am ETO1?
Bydd ETO1 yn diflannu ar ôl mis Medi 2008 a bydd angen i bawb, nad ydynt naill ai yn gymwys yn barod neu eisoes yn gweithio ers hyn a hyn (peidiwch â gofyn i mi pryd, dw i ddim yn gwybod, ond mae’n debyg o fod blwyddyn neu ddwy) wneud cwrs TAR llawn. Mae hyn, fel dw i wedi ei nodi uchod, yn llawer iawn mwy o beth.

Beth sy’n digwydd gyda TACiO / Y Cymhwyster Cenedlaethol?
Mae peilot ar gael ymhob man yng Nghymru ar hyn o bryd. Dw i wedi mwynhau gwneud hyn am y tro cyntaf yng Nghasnewydd a dw i’n credu bod y darpar diwtoriaid yn mwynhau hefyd. Mae’n debyg y bydd mwy o gyrsiau peilot erbyn mis Medi 2008. Gobeithio erbyn hynny byddwn yn gwybod sut y bydd hyn yn cael ei gydnabod yn y gymuned ac yn y byd dysgu yn gyffredinol. Y perygl yw y bydd yn debyg i TAR a bydd angen gwneud llawer iawn o waith dros gyfnod o flynyddoedd.
    Efallai bod hynny’n beth da ond dw i’n falch fy mod i’n gymwys yn barod. O leiaf, dw i’n meddwl fy mod yn gymwys yn barod!

cymwyst2.jpg
Steffan Webb
Rheolwr Ansawdd a Hyfforddiant
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent
05/03/08