# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

     c3.jpg  

(gan Eirian Wyn Conlon, Tiwtor-drefnydd Sir Fflint a Dyffryn Clwyd, Prifysgol Bangor.)

Cyn Eisteddfod Genedlaethol 2007 cafodd Mentrau Iaith y gogledd ddwyrain nawdd gan Fwrdd yr Iaith a CYD i gynnal gweithgareddau cymdeithasol i ddod â Chymry Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd. Fel Cadeirydd Pwyllgor Dysgwyr yr Eisteddfod, mi ges i gyfle i fod yn rhan o’r trefnu. Ar ôl misoedd prysur iawn o gymdeithasu o Dachwedd 2006 ymlaen, daeth yr arian i ben ddiwedd  mis Mawrth.
    Roedd Pauline Owen, cyn-ddysgwraig sy’n diwtor Cymraeg i Oedolion i Brifysgol Bangor yn yr Wyddgrug, yn teimlo’n gryf y dylen ni barhau â’r gwaith da. Wrth sgwrsio â nifer oedd yn arfer dod i ddosbarthiadau Llafar a Llên efo hi (a finne fel tiwtor), mi benderfynodd y criw y basen nhw’n hoffi sefydlu cymdeithas barhaol i helpu cyn-ddysgwyr a dysgwyr rhugl ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol efo Cymry Cymraeg ac felly dod yn rhan o’r bywyd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
clwb1.jpg
Felly ar ddydd Sul 1af Maes D yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint mi gawson ni gyfarfod. Daeth ’na rhyw 40 i drafod y cynllun – ac roedd o leia deugain arall wedi ymddiheuro gan fod pawb mor brysur yr wythnos honno!
    Y syniad gwreiddiol oedd gwahodd pawb oedd yn siarad Cymraeg o lefel Uwch parhad i fyny i ymuno â’r grŵp. Penderfynwyd codi tâl aelodaeth o £2 y flwyddyn er mwyn cyfiawnhau "cofrestru" pawb (i ni gael defnyddio gostyngiad hael Clwyd Theatr Cymru ar bris mynediad dramâu Cymraeg i aelodau dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion). Aethom ati i ofyn i bawb oedd â diddordeb be ddylen ni ei gynnwys yn y rhaglen.
    Gan ein bod ni’n awyddus i bawb ymuno â’r gymdeithas Gymraeg sy’n bodoli yma dan ni’n gofyn i bob cymdeithas gynnig croeso i ni ar un noson – felly mi gychwynnon ni ym mis Hydref ar ôl ymarfer Parti’r Pentan mewn Bar Gwin yn yr Wyddgrug. Mae nifer o ddysgwyr a chyn-ddysgwyr yn aelodau o’r côr. Felly mi gawson ni ychydig o eitemau gan y côr, ychydig o Dapas am ddim gan y Bar Gwin, a llawer o sgwrsio a syniadau.
clwb2.jpg
Wedyn dan ni wedi derbyn cynigion gan unigolion a chymdeithasau sy’n fodlon arwain noson yn wirfoddol, dan ni wedi hysbysebu digwyddiadau Cymraeg sy’n cael eu trefnu gan eraill a dan ni’n mynd i bob drama Gymraeg yn y Theatr fel criw.
    Dan ni’n trefnu o leia un digwyddiad ychwanegol y mis (ac yn ceisio cael rhywbeth ar y 19eg o bob mis!!) Mae’n bwysig ein bod ni’n newid noson y digwyddiadau gan fod cymaint mewn dosbarthiadau Cymraeg neu’n brysur ar nosweithiau penodol.
    Mi gawson ni daith fendigedig drwy goedwig Nercwys dan arweiniad David Shiel, warden Parc Gwledig Loggerheads (cyn-ymgeisydd lefel A) fis  Tachwedd.  (Dyma’r unig ddigwyddiad hyd yn hyn sydd wedi cynnwys plant.)
Roedd ’na noson ddifyr o flasu gwin dan ofal Arwel Owen, perchennog siop Gwinology yr Wyddgrug.
clwb3.jpg
Mi gawson ni groeso gan Ferched y Wawr cyn y Dolig (a bwffe!), mi gawson ni Ddisgo Dolig, a chyri ar ôl Noson Blygeiniol y Fenter Iaith fis Ionawr.
    Daeth ambell aelod ar drip dysgwyr blynyddol Prifysgol Bangor i Ganolfan y Mileniwm Caerdydd.
    Mi gawson ni gwis tafarn hwyliog a phob tîm yn gymysgedd perffaith o Gymry Cymraeg a dysgwyr (mae’n rhaid gofalu bod hyn yn digwydd wrth gwrs neu does ’na ddim pwrpas cynnal y clwb!). Mi gawson ni noson wych i ddathlu Sant Padrig (lle cafodd dosbarthiadau o bob lefel groeso). Eto, dysgwr efo ni sy’n cynnal nosweithiau Gwyddelig drefnodd y noson.
    Erbyn hyn rydan ni’n cynnig y clwb i bawb o lefel Pellach Parhad ymlaen. Ond mae’n hanfodol bod y nosweithiau i gyd yn cael eu cynnal yn gyfangwbl drwy gyfrwng Cymraeg naturiol gan mai pwrpas y clwb ydy rhoi mynediad i’r dysgwyr rhugl i’r gymdeithas Gymraeg. Rydan ni wedi ein plesio’n fawr bod traean o’r 120 aelod yn Gymry o’r crud, traean yn gyn-ddysgwyr rhugl a thraean mewn dosbarth ar hyn o bryd. Mae’r amrediad oedran yn ddiddorol hefyd – o 20 i oed yr addewid, er bod y mwyafrif yn eu 30au a’u 40au.
    Eto i ddod mae gynnon ni drip bws i Rosgadfan i weld cartre Kate Roberts ac Amgueddfa Lechi Llanberis (dros 50 yn mynd, ac ymgeisydd lefel A eleni yn cyfuno ei brosiect ymarferol â chefnogi’r clwb!) , taith i wylio tîm Wrecsam yng nghwmni Dai Davies yr arwr rhyngwladol, noson o ganu tafarn efo Parti’r Pentan (ar agor i bob lefel), noson o ddawnsio gwerin efo Dawnswyr Delyn, tripiau theatr, taith natur, ffilm Gymraeg yn y Theatr, picnic, a dan ni’n gobeithio gorffen y flwyddyn efo clwb cinio Wil Bryan sy’n trefnu Helfa Drysor, bwffe ac adloniant i ni!  
clwb4.jpg
Mi fyddwn ni’n sicr yn parhau â’r clwb yn 2008/9 ac rydan ni eisoes yn cynllunio’r rhaglen! Mi fyddwn ni’n gofyn i aelodau eleni am syniadau hefyd. Ond un o’r pleserau mwya’ ydy darganfod rhyw ddigwyddiad neu syniad hollol annisgwyl a medru ei hysbysebu drwy ein rhestr ebost, ein herthygl fisol yn y Papur Bro lleol, ein gwefan a’n grŵp Facebook (y ddau ola’n cael eu trefnu’n annibynnol gan un o’n dysgwyr Meistroli brwd!!)
    Un elfen bwysig o’r clwb ydy’r egwyddor ein bod ni’n ceisio cynnig rhywbeth at ddant pawb – felly does dim disgwyl i neb deimlo’r rheidrwydd i fynychu digwyddiadau sydd ddim yn apelio!! Er hyn mae gen i botel o siampên yn barod i’r person fydd wedi bod i’r nifer fwyaf o ddigwyddiadau!!
    Tuag at ddiwedd y flwyddyn dan ni wedi dechrau meithrin perthynas efo ardaloedd Wrecsam a Dinbych, a tase clwb tebyg yn Ne neu Orllewin Cymru awydd cysylltu, dw i’n siŵr y medren ni gyfarfod rhywle!!
clwb5.jpg
    Mae Pauline a fi wedi ein plesio’n fawr gan gefnogaeth Cymry Cymraeg ardal yr Wyddgrug i’n Clwb. Roedden ni’n gobeithio basai’r holl ewyllys da oedd wedi cronni o ganlyniad i weithgarwch y dysgwyr cyn ac yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn para’n ddigon hir i ni sefydlu C3. Roedd y syniad wedi bod yn cyniwair ers blynyddoedd ond yn sicr os oeddem am lwyddo yna eleni oedd y cyfle gorau. Dw i’n credu bod y dysgwyr a’r cyn-ddysgwyr sydd wedi dewis ymuno yn elwa’n fawr ac mae’r Cymry Cymraeg yn amlwg yn mwynhau eu cwmni neu fasen nhw ddim yn dod i’r digwyddiadau! Dydy o ddim wedi bod yn llawer o drafferth chwaith!! Rydan ni’n edrych ymlaen at y dyfodol yn fawr.
    Dw i wedi sgwennu hwn ym mis Ebrill – felly i weld be sydd wedi digwydd yn y cyfamser edrychwch ar ein gwefan – http://www.bangor.ac.uk/c3 , chwiliwch am C3 Yr Wyddgrug ar Facebook, neu cysylltwch â’r clwb drwy e.conlon@bangor.ac.uk.

iidigwydd3.jpg