# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
iatefltitle.gif
Adroddiad gan
Owen Saer,
Canolfan Cymraeg
i Oedolion Morgannwg,
Prifysgol Morgannwg


   DYDD MERCHER 1 EBRILL

Sesiwn Graidd
Engage Me Or Enrage Me
Marc Prensky (Annibynnol, UDA)

Canolbwynt y sesiwn graidd hon oedd y bwlch rhwng cenedlaethau o ran cefndir technolegol, y miloedd o oriau y mae pobl ifainc yr oes sydd ohoni wedi eu treulio erbyn eu hugeiniau cynnar mewn cyswllt â chyfrifiaduron, gemau electronig, fideo ac ati. Pwysleisiodd mai gwaith y tiwtor yw addasu ei ddysgu a gweithgareddau’r dosbarth i ateb gofynion y gynulleidfa hon, gan ganiatáu i’r dysgwr lywio’r dysgu. Gwelwyd pobl ifainc ar ddarnau fideo YouTube yr oeddent wedi eu creu o’u hunain yn siarad Saesneg, er mwyn cyfathrebu ag eraill, creu ffrindiau newydd, a gofyn am atborth ar eu perfformiad ieithyddol. Nododd Prensky nad oedd angen ymdrech ar ran y tiwtor i’w cymell i wneud hyn, ond mai dulliau dysgu o’r math hwn sydd yn naturiol i bobl ifainc bellach, ac yn eu denu i roi’r iaith ar waith.

Hoffais y cyflwyniad hawdd ei ddilyn hwn, nad aeth yn syrffedus er ei hyd. Yn sicr, credaf ei bod yn fuddiol i faes Cymraeg i Oedolion arbrofi gyda dulliau cyfoes o’r math hwn sydd yn debygol o apelio at sector iau ein cynulleidfa (ac, mae’n siwr, at y rhai hŷn yma ac acw). Fwy na hynny, teimlwn fod angen inni holi i ba raddau mae’r dysgwr yn arwain y dysgu yn ein dosbarthiadau, ac oni fyddai’n ddymunol annog rhagor o hyn.

iatelrule.jpg

Sesiwn 1.1
NLP in Education: It’s Not What You Think
Bonnie Tsai (Pilgrims, Lloegr)

Nid hwn oedd y tro cyntaf imi fynychu sesiwn ar Raglennu Niwroieithyddol (Neurolinguistic Programming) mewn cynhadledd IATEFL, a darllenais gryn dipyn am y dull dysgu hwn oddi ar fy hyfforddiant ym maes Saesneg i Oedolion. Nid wyf, fodd bynnag, wedi ymserchu’n llwyr ynddo, nac wedi fy llawn ddarbwyllo o’i werth absoliwt fel sail i ddysgu. Cyflwynwyd unwaith yn rhagor yn y sesiwn hon enghreifftiau o brofiadau gweld, clywed, symud, arogli a blasu (VAKOG – visual, auditory, kinaesthetic, olfactory, gustatory), gan esbonio’r ffordd y mae’r rhain yn apelio at wahanol ddysgwyr. Methais, fel erioed, â theimlo fod yr un ohonynt yn golygu mwy imi na’i gilydd.

Gosodwyd mwy nag un dasg braidd yn annelwig megis ‘ysgrifennwch rywbeth cadarnhaol a chanmoladwy ar ddarn o bapur’. Ymysg yr ymatebion oedd ‘hoffaf eich dillad’ a ‘hyfryd yw cael mynychu’r Gynhadledd hon’; fe ad-ddosbarthwyd y cardiau ymysg y mynycheion, ond nis defnyddiwyd yn sail i ddim mwy na thrafod ein teimladau am y dasg. Cytunai fy nau gymydog na fyddai eu dysgwyr Ewropeaidd yn gwerthfawrogi’r dasg o gwbl, ac fe’u cawsant yn anodd gweld unrhyw amcan iddi. Hyderaf y cawn ymateb digon parod gan ein dysgwyr Canolradd neu Uwch ninnau i dasgau o’r fath, ond ni welaf innau chwaith fawr o swmp addysgiadol ynddynt.

iatelrule.jpg

Sesiwn 1.2
Teachers – How Technology Can Ensure Their Voice Is Heard
Susan Sheehan (Cyngor Prydeinig, Lloegr)

Disgrifiwyd yma holiadur a ddefnyddiwyd i hel data oddi wrth athrawon Saesneg er mwyn llunio Asesiad Iaith Rhyngwladol ar-lein. O ystyried cyd-destun maes Cymraeg i Oedolion, roedd hyn o ddiddordeb mawr, gan y gallai rhyw fath o brawf neu asesiad fod yn ddefnyddiol iawn wrth arwain darpar-fyfyrwyr at gyrsiau ar y safon briodol. Nodwyd bod yr holiadur yn gofyn barn athrawon Saesneg mwyaf profiadol y Cyngor Prydeinig am y drefn orau i gyflwyno patrymau gramadegol ar gyrsiau, a diddorol oedd canfod fod 90% ohonynt o’r un farn.

Aethpwyd ati i gymharu gwahanol feddalwedd (e.e., Wiki a SharePoint) a dulliau rhannu gwybodaeth rhwng tiwtoriaid a staff sefydliadau dysgu. Nodwyd mai anodd yw cymell athrawon i’w defnyddio yn gyson ac i gyfranogi. Codais y syniad hwn dros ginio gyda chydweithwyr o Ganolfan Morgannwg, a chytunwyd y byddai’n braf sefydlu rhyw gyfrwng electronig i diwtoriaid rannu syniadau a newyddion.

iatelrule.jpg

Sesiwn 1.3
My Learning Diary: Reflections On Learning Words And Making Mistakes
Richard Gallen (The London School of English, Lloegr)

Adroddodd y tiwtor Saesneg Richard Gallen ei brofiadau wrth ddysgu’r Sbaeneg, gan ganolbwyntio ar ei ddisgwyliadau gan ei athrawon Sbaeneg o ran eu hymateb i’w berfformiad ieithyddol (gwallau a chamddefnydd ar iaith yn benodol). Rhoddodd ddisgrifiad hynod fanwl o’i alluoedd a’i wendidau (teg nodi mai anghyffredin yw’r dysgwr iaith a all ddadansoddi ei berfformiad i’r graddau hwn). Fe’m tarodd fod y dysgwyr y dôi i gyswllt â hwy yn Llundain yn dra gwahanol i fwyafrif ein dysgwyr ninnau; yn hytrach na mynnu’n gadarn fod y tiwtor yn cywiro pob gwall yn syth ac yn yr unfan, credaf y byddai llawer o fyfyrwyr Cymraeg i Oedolion ym Morgannwg yn fwy tebygol o golli hyder a digalonni o gael eu cywiro’n or-danbaid. Yn y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd cryn sylw i faterion cywiro ac atborth ym maes CiO, a’r rheiny’n canolbwyntio fwyaf ar y tiwtor; gallai fod yn ddadlennol cynnal prosiect ymchwil syml i holi’r dysgwyr hwythau am eu dymuniadau ac ymatebion o ran derbyn atborth gan y tiwtor.

iatelrule.jpg

Sesiwn 1.4
Difference, Medals, Models and Angels – Keeping Students Motivated
Jeremy Harmer (Annibynnol, Lloegr)

Thema sy’n codi fwyfwy yn sesiynau IATEFL, fel ym maes addysg yn gyffredinol a thu hwnt, yw’r gwahaniaethau rhwng unigolion, a phwysigrwydd gweithredu i ateb eu hanghenion. Dechreuwyd y sesiwn hon gydag amryw o weithgareddau difyr, er braidd yn elfennol, a amlygai wahanol dalentau, sgiliau, barn a theimladau’r gynulleidfa – er enghraifft, bu rhaid i bawb weithio gyda’i gymydog ac esgus mai cloc ydoedd, gan ddefnyddio eu breichiau i ddangos yr amser – tasg annisgwyl o anodd i rai! Yn ôl Harmer, nid pa mor ddeallus yw unigolyn y dylid ei ofyn, ond yn hytrach ym mha ffordd y mae’n ddeallus, a sut y mae’n ymateb i wahanol stímwli. Cyfeiriwyd eto at NLP a VACOG, gan ein hatgoffa fod cyflymder datblygiad dysgwyr yn ogystal â’u stadau emosiynol yn amrywio. Dangoswyd deiagram o Angel Cymhelliant, ac iddi bum rhan a gynrychiolai’r broses ddysgu fel y’i gwelid gan Harmer: Symbyliad; Cyrhaeddiad; Agwedd; Gweithgareddau Amrywiol; Ymbweru.

Prif nod y sesiwn hon oedd cyflwyno’r cwrslyfr newydd Just Right, a chafwyd cip ar amryw o’r gweithgareddau. Yn anffodus, rhuthrwyd drwyddynt heb imi gael mwy nag argraff frysiog iawn, ond roeddent i’w gweld yn ddifyr, ac yn sicr yn rhai y byddwn am roi cynnig arnynt ar lawr dosbarth. Byddai’r cwrslyfr hwn, a rhai eraill ar ddangos yn y Gynhadledd hon, yn sail defnyddiol dros ben wrth lunio’r cwrslyfr Cymraeg i’r Teulu.

iatelrule.jpg

   DYDD IAU 2 EBRILL


Sesiwn Graidd: Identity,
Literacy and English Language Teaching
Bonny Norton (Prifysgol British Columbia, Canada)

Y berthynas rhwng hunaniaeth a dysgu iaith oedd testun y sesiwn hon. Er yr argoelion am ddarlith hynod o berthnasol a defnyddiol i’n gwaith dysgu a datblygu, yn anffodus, ni wireddwyd y gobaith hwn. Cafwyd cyfuniad o fideos digon difyr ond na roesant fawr o fewnwelediad imi na thanio fy nychymyg, ac esboniad tra manwl o’r trawsnewid diweddar o ddamcaniaethau seicoieithyddol i rai sosioieithyddol.

iatelrule.jpg

Sesiwn 2.1
International House CPD – furthering career opportunities for teachers
Shaun Wilden (International House World Organisation)

Dyma esboniad am ddatblygiadau diweddar yng nghymwysterau Saesneg i Oedolion. Rhai o’r newidiadau sylfaenol yw 1) nad yw ‘DELTA’ bellach yn golygu Diploma of English Language Teaching to Adults, ond yn parhau’n label ar y dystysgrif; 2) fod y cwrs erbyn hyn yn dair modiwl nad ydynt yn gwbl annhebyg i elfennau’r Cymhwyster Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion, a bod modd eu hastudio ar wahân gan ddilyn unrhyw drefn. Yn ôl y disgwyl, un o ganlyniadau’r ail newid hwn yw fod llai o bwysau o lawer ar y myfyrwyr nag a fu wrth ddilyn y cwrs DELTA gwreiddiol.

iatelrule.jpg

Sesiwn 2.3
What Inspection Tells Us About ESOL
Alastair Pearson (Ofsted, Lloegr)

Cafwyd gorolwg o’r sefydliad Saesnig Ofsted (Office for Standards in Education, Children’s Services and Skills), a’r sefydliadau a wasaneithir ganddo. Esboniwyd bod arolygiadau’n dueddol o roi llai o sylw i sefydliadau a ddyfarnwyd eu bod yn dda iawn neu’n ardderchog mewn arolygiad blaenorol. Y sector ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) oedd ffocws y sesiwn hon. Edrychwyd ar 150 o adroddiadau arolygiadau, gan ystyried ffactorau megis niferoedd dysgwyr, cyrhaeddiad, cynnydd, mynychiant ac ati. Ar y cyfan, dyfarnwyd bod y maes yn foddhaol ei safon; dangosai hyn gryn welliant ar y cyfnod blaenorol (2001-2005). Yn ôl Pearson, mae cyrsiau’r maes bellach yn ateb gofynion myfyrwyr yn fwy cywir nag a wnaed yn y gorffennol, gan sicrhau eu bod yn dilyn cyrsiau achrededig.

Ymysg nodweddion gwersi da a rhagorol oedd y canlynol:

•  maint yr amser a dreuliwyd ar ymarfer iaith lafar
•  gwelliant mawr ar ddefnydd o DG (rai blynyddoedd yn ôl, gwelwyd gormodedd o weithgareddau tasgau papur
•  dysgu gwahaniaethol

Nodwyd mai agwedd anffodus oedd y disgwyliadau ar fyfyrwyr i ddefnyddio patrymau ar gyfer gweithgareddau nad oeddent eto o fewn eu gafael yn ieithyddol. O ran Cynlluniau Dysgu Unigol, daeth i’r amlwg fod y myfyrwyr yn gweld gwerth a budd mawr ynddynt, gan eu bod yn hoffi cael eu trin fel unigolion. Cafwyd, fodd bynnag, drafferthion wrth osod targedau; nid oedd cyswllt amlwg rhwng y rhain a gwir anghenion na dymuniadau’r unigolion. Peth calonogol oedd gweld cynlluniau gwersi a oedd bellach yn rhoi sylw amlwg i’r nodau.

iatelrule.jpg

Sesiwn 2.4
Analysing the success of vocabulary learning strategies for foundation students
Alex Dawson (Prifysgol Caerdydd)

Disgrifiwyd yma ddulliau a ddefnyddiwyd i gynyddu geirfa myfyrwyr safon Sylfaen, ac i ehangu eu gwybodaeth am eitemau y gwyddant eisoes, a’u gallu i’w defnyddio. Cardiau neu ffurflenni geirfa oedd y prif gyfrwng; roedd arnynt le i’r dysgwr restru gwybodaeth am y gair, e.e. ffurfiau lluosog, rhediadau berfau, rhannau ymadrodd eraill oedd yn perthyn i’r gair, arddodiaid sy’n cyd-fynd ag ef, a hefyd esiamplau o ddefnydd y gair. Esboniwyd y ffordd y cymhellir y myfyrwyr i’w cwblhau a’u cyflwyno ar-lein er mwyn eu derbyn yn ôl wedi eu cywiro ar yr un diwrnod. (Yn sicr, gwelaf y byddai potensial i rai o’n dysgwyr ninnau ym maes CiO efelychu hyn – ar-lein neu ar bapur; mae’n ffordd effeithiol o gynyddu gwybodaeth ieithyddol safonau Canolradd ac Uwch.) Y prif drafferthion oedd nad oedd pawb yn cwblhau’r dasg, neu eu bod yn colli stêm ac yn rhoi’r gorau i’r gwaith hwn maes o law; hefyd, roedd rhai a wnaent y gwaith yn hepgor rhannau allweddol yn aml. Diddorol, fodd bynnag, oedd gweld nad oedd fawr o gyswllt rhwng perfformiad y mwyafrif yn y tasgau hyn ac mewn arholiadau. (Hwyrach fod hyn yn awgrymu na ddylid rhoi gormod o bwyslais ar ganlyniadau arholiadau.)

iatelrule.jpg

Sesiwn 2.5
The Online Delta – is online teacher training acutally possible?
Jim Scrivener (Bell Bedgebury International School)

Yn ôl Scrivener, ers i gwmni Bell gynnig y cymhwyster hwn ar-lein, mae nifer y myfyrwyr wedi codi’n aruthrol. Daeth i’r amlwg fod modd estyn cynulleidfa nad oedd y cymhwyster yn agored iddynt (mewn gwledydd tramor), a bod nifer fawr o fanteision yn deillio o’r dull. Roedd rhai o’r rhain yn cynnwys cyfathrebu llawer mwy eang rhwng y myfyrwyr, a pherthynas mwy agored rhyngddynt â’i gilydd, ac â’r tiwtoriaid. Un pwynt oedd fod yr holl waith cwrs a gyflwynir i’w weld yn gyhoeddus ar y we, ac er fod hyn yn syndod i lawer, ni welwyd unrhyw drafferthion yn codi hyd yma megis llenladrad ac anfodlonrwydd ar ran y myfyrwyr. Edrychwn ymlaen at weld y datblygiadau ym maes CiO.

iatelrule.jpg

iatefl3.jpg
   DYDD GWENER 3 EBRILL

Sesiwn 3.3
Beyond the Mirror, Beyond the Course: Video for Teacher Development
Richard Pemberton (University of Nottingham)

Trafodwyd defnyddio clipiau fideo ar gwrs MA Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill wrth hyfforddi tiwtoriaid lled neu gwbl ddibrofiad. Yn y bôn, nodwyd diffygion defnyddio darnau fideo, sef bod yn rhaid iddynt fod yn rhai byr iawn (2 funud o hyd) er mwyn hwyluso eu hanfon yn electronig, ac o ganlyniad, ni chafwyd fawr o fewnwelediad i’r dysgu gan yr aseswyr. Fy nghasgliad personol oedd na ddylid dibynnu ar fideo fel cyfrwng asesu oni bai fod 1) dim modd mynychu’r wers i asesu, 2) safon y fideo a’r sain yn uchel, a 3) modd gweld a chlywed y myfyrwyr a’r tiwtor fel ei gilydd.

iatelrule.jpg

Sesiwn 3.4
Podcasting for ELT? 10 Ideas (From a Techno-Sceptic)
Heather Buchanan (Prif Fetropolitanaidd Leeds)

Sesiwn ddiddorol ac ymarferol a restrodd yn gyntaf resymau yn erbyn defnyddio technoleg gwybodaeth, gan fod Buchanan ei hun yn ddihyder ac yn ofnus wrth wneud hynny. Esboniwyd ystyr podledu yn gryno ac effeithiol drwy gyfrwng fideo – defnyddiol i aelodau fel finnau nad ydynt yn gyfarwydd â phodledu. Cafwyd wedyn resymau o blaid defnyddio’r cyfrwng, gan gynnwys:

•ateb disgwyliadau’r myfyrwyr
•cyfleustra
•cyfredoledd
•maint ac amrywiaeth y dewis
•modd cyrchu deunyddiau dilys neu annilys
•hwyluso dysgu annibynnol
•meithrin hunan-ymwybyddiaeth ar ran y dysgwyr
•hyrwyddo’r dysgu.

Cyflwynwyd wedyn ddeg ‘syniad’ ar gyfer defnyddio podledu:
1.  creu hwyl: codi diddordeb y dysgwyr, gwella rapport â hwy a rhyngddynt, eu difyrru
2.  recordiadau teledu a/neu radio: mae meddalwedd o’r enw audacity ar gael i alluogi hyn
3.  chwelota (webquest)
4.  podledu ar y rhyngwe
5.  cymell dysgwyr i greu podlediadau eu hunain
6.  recordio dysgwyr yn ystod y wers
7.  cymell dysgwyr i recordio eu hunain – tasgau gwaith cartref, prosiectau meithrin hunan-ymwybyddiaeth, e.e. creu hysbysebion, cyfweliadau, darlledu newyddion
8.  recordio blogiau/trafodaethau myfyrwyr
9.  rhoi atborth ar ffurf awdio – defnyddiol i’r dysgwyr gan ei fod yn llai ffurfiol nac iaith ysgrifenedig
10.awdio ebost rhwng tiwtor a dysgwyr/aelodau’r dosbarth

iatelrule.jpg

Sesiwn 3.5
The assessment of language learner autonomy: practices in the field
Lucy Cooker (Prifysgol Nottingham)

Gan fod gennyf ddiddordeb mawr mewn ffactorau sy’n cymell dysgwyr i fynd ati o’u pennau a’u pastynau eu hunain, a’r amryw ffyrdd sydd iddynt wneud hyn, gobeithiwn gael esboniad manwl ar hynny yn y sesiwn hon. Yn anffodus, brysiwyd drwyddynt, gan ganolbwyntio wedyn yn helaeth ar ddulliau asesu, oedd yn llai perthnasol imi.


Carwn ddiolch yn fawr i’r Ganolfan am y cyfle i fynychu’r gynhadledd; bu’n brofiad gwerthfawr unwaith yn rhagor.
iatel2.jpg