# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
daudiwtor.jpg

Eleni, ymwelodd Cwrs Madog â Chanada a chafodd dau diwtor o Gymru, Geraint Wilson-Price a Chris Reynolds, gyfle i ddysgu ar y cwrs a mwynhau rhywfaint o fywyd Edmonton, Camrose a Vancouver.

Roedd rhaid teithio am ddeunaw awr ar fws, awyren ac mewn car cyn cyrraedd pen y daith a dau ddiwrnod o joli yn Edmonton cyn teithio’r 56 milltir lawr i Gampws Augustana, Prifysgol Alberta, yn nhref Camrose am wythnos lawn o ddysgu, gweithgareddau cyfathrebol a llawer o fwynhau.

daudiwtor1.jpg
Daeth dros 50 o ddysgwyr i’r cwrs eleni, o bob cornel o ogledd America, ac yn galonogol iawn roedd lefel 1 yn llawn. Roedd yn braf iawn gweld hen wynebau cyrsiau blaenorol ond roedd llawer yn mynychu am y tro cyntaf, yn cynnwys un o’r tiwtoriaid, Aled Llion, sydd wedi bod yn brysur eleni yn darlithio yn Harvard. Roedd y cwrs yn dilyn yr un patrwm ag arfer gyda thwmpath ar nos Lun a chwis ar nos Fawrth.

Cynhaliwyd y cwis mewn tafarn leol o’r enw ‘Scallywags’ a daeth honno’n gartref i weithgareddau ‘cymdeithasol’ y cwrs am weddill yr wythnos. Yn dilyn y cwis arhosodd rhai aelodau’r cwrs i samplo cynnyrch lleol y wlad ac erbyn cyrraedd y campws yn gynnar bore dydd Mercher roedd y nifer wedi lleihau i 5, sef un teulu o bedwar ac un tiwtor .. alla i ddim cadarnhau pa un.....

Wrth gerdded tuag at ddrysau’r Coleg dyma’r tiwtor dienw yn edrych lan i’r awyr a sylwi bod goleuadau gwyrdd yn symud ar draws yr wybren. Am dri chwarter awr buon ni’n sefyll ym maes parcio’r Coleg yn syllu ar sioe oleuadau gwych goleuni’r gogledd cyn i’r teulu ffarwelio. Rhaid cyfaddef bues i yno tan chwarter i bedwar y bore yn edrych i’r wybren cyn i’r goleuadau ddiflannu. Ar un adeg ces i gwmni heddwas lleol oedd yn ceisio deall pam oedd rhywun gydag acen hynod wahanol i’r arfer yn crwydro strydoedd gwag, tywyll Camrose gyda chamera am dri o’r gloch y bore......

Daeth goleuadau nos Fawrth yn destun sbort am ran fwyaf yr wythnos gyda rhai yn amau taw’r cwrw oedd yn gyfrifol. Ac, a dweud y gwir, doedd y dystiolaeth ffotograffig ddim yn argyhoeddi chwaith. Ond, ar fore Gwener, yn y papur lleol roedd lluniau gwych o’r goleuadau yn profi fy mod yn dweud y gwir!

daudiwtor3.jpg
Ar ddiwedd yr wythnos cynhaliwyd Eisteddfod y cwrs a rhagflas o’r dyfodol. Am y tro cyntaf yn hanes Cwrs Madog ataliwyd y Gadair oherwydd diffyg safon y gwaith. Roedd yr awyrgylch yn yr ystafell yn drydanol. Efallai taw hwyl yw nod y cwrs ond mae’r cystadlu’n frwd, a phythefnos cyn Eisteddfod wag Y Bala roedd ochenaid o’r dorf wrth gyhoeddi’r canlyniad. Er mwyn gwaredu’r siom a’r tensiwn aeth pawb i’r dafarn am noson o garioci. O ganlyniad, isafbwynt yr wythnos (am yr ail flwyddyn yn olynol) oedd Bohemian Rhapsody, sydd ar gael ar Ewe-Tiwb..... Ac o fewn dim roedd yr wythnos ar ben.

Ar ddiwedd y cwrs cawson ni daith fach mewn awyren dros y Rockies i ddinas Vancouver er mwyn cael saib ar ôl holl weithgaredd yr wythnos flaenorol. Ar ôl mwynhau cymaint y ddwy flynedd diwethaf, ar ôl y cwrs, yng nghanol bwrlwm Efrog Newydd doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai Vancouver yn cynnig yr un wefr ond roedd y ddinas yn hyfryd iawn. Efallai bod yr haul a thymheredd y 90au yn helpu ond cafwyd amser bendigedig yn crwydro strydoedd glân y ddinas, samplo’r bwyd a diodydd hyfryd a chael taith fach o gwmpas y ddinas ac i mewn i’r mynyddoedd mewn awyren-fôr. Am y trydydd tro yn olynol ar gwrs Madog gwelon ni’r cyfryngau wrth eu gwaith. Roedd cwmni teledu Fox yn ffilmio rhaglen ffuglen wyddonol "Fringe" yng nghanol y ddinas tra bod cwmni CBC yn ffilmio bwletin y tywydd rownd y gornel o’n gwesty. Yn fuan iawn daeth dydd Gwener ac awr mewn tacsi, naw awr mewn awyren, pump awr ar fws a phythefnos o jet-lag....

    daudiwtor4.jpg